CBAC yn comisiynu beirdd nodedig Cymreig i gyfoethogi’r TGAU Cymraeg Craidd
Yn ddiweddar, comisiynodd CBAC ddau fardd Cymreig o fri, Aneirin Karadog a Nia Morais, i greu dwy gerdd newydd i gefnogi’r TGAU Cymraeg Craidd.
Aneirin Karadog | Nia Morais |
Yn sôn am y datblygiad hwn, dywedodd Leah Maloney, Swyddog Datblygu Cymwysterau, CBAC: “Roeddem yn falch iawn o allu gweithio gydag Aneirin Karadog a Nia Morais, a lwyddodd i greu cerddi sy'n ymgorffori naws y cymhwyster. Mae'r cerddi newydd yn cynnig testunau i ddysgwyr sy'n adlewyrchu etifeddiaeth yr iaith, tra hefyd yn dathlu'r amrywiaeth a welir ar draws Cymru.
Nid yn unig bydd ein TGAU newydd mewn Cymraeg Craidd yn sicrhau y gall dysgwyr ddefnyddio'r iaith yn hyderus y tu allan i'r ystafell ddosbarth, ond bydd hefyd yn gwella eu dealltwriaeth a'u gwerthfawrogiad o lenyddiaeth Gymraeg.
Trwy gydol eu hastudiaethau, bydd dysgwyr yn archwilio sawl safbwynt trwy destunau a grëwyd gan awduron o gefndiroedd diwylliannol amrywiol. Bydd hyn yn eu galluogi nhw i ystyried themâu a safbwyntiau gwahanol, gan gynnig deunyddiau sy'n atseinio ac yn adlewyrchu eu profiadau personol o Gymru fodern.”
Mae'r TGAU newydd mewn Cymraeg Craidd wedi'i gynllunio i alluogi dysgwyr i ddefnyddio'r iaith yn hyderus mewn amrywiaeth o ffyrdd ac i ddod i werthfawrogi amrywiaeth eang o lenyddiaeth Gymraeg.
Dathlu amrywiaeth
Er mwyn cefnogi uchelgais y cymhwyster, bu tîm Datblygu Cymwysterau CBAC yn ymchwilio'n fanwl i ddewis testun oedd yn cynrychioli Cymru heddiw. Dewison nhw awduron o gefndiroedd amrywiol ar draws Cymru, gyda phob un yn cynnig themâu gwahanol drwy gymysgedd o straeon byrion a cherddi. Bydd y testunau hyn yn galluogi dysgwyr i archwilio safbwyntiau, diwylliannau, themâu a chyfraniadau astudio gwahanol gan gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol (BAME) ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
Comisiynu beirdd adnabyddus
Er bod y casgliad cychwynnol hwn yn llwyddo i adlewyrchu'r amrywiaeth yng Nghymru, roedd y tîm yn deall bod cerddi a fyddai'n cefnogi amcanion y cymhwyster yn absennol. Felly, comisiynwyd dau fardd Cymreig adnabyddus i ddatblygu darnau newydd i ffurfio rhannau o destunau. Yn dilyn ymchwil manwl, dewisodd y tîm y Bardd Plant Cymru presennol, Nia Morais ac y bardd uchel ei barch Aneirin Karadog.
Gan weithio ochr yn ochr â'r tîm, cynhyrchodd Nia Morais y gerdd 'Llwybrau' (Pathways) sy'n archwilio'r themâu hunaniaeth ac amrywiaeth. Creodd Aneirin Karadog y darn 'Y Daith' (The Journey) sy'n archwilio'r iaith, hunaniaeth a diwylliant, ochr yn ochr â stori garu LHDTC+.
Disgrifiodd Nia Morais ei hysbrydoliaeth ar gyfer y gerdd:“Mae teulu fy nhad yn dod o'r Cabo Verde yng Ngorllewin Affrica, ac mae gen i deulu ym Mhortiwgal hefyd. Dyma gerdd rydw i wedi ysgrifennu fel llythyr i fy Mam-gu a Thad-cu, gan gofio'r dyhead am gysylltiad diwylliannol teimlais i yn fy harddegau, a dathlu fy nhras gymysg.
Rwy'n gobeithio bydd y gerdd yn taro deuddeg gyda phobl ifanc Cymru, ac yn dechrau trafodaethau yn y dosbarth am yr hunaniaethau hynod amrywiol sydd i'w gweld yng Nghymru heddiw.”
Mae cyflwyno llenyddiaeth i'r rheiny sy'n fwy prin eu Cymraeg wrth iddyn nhw fynd ar eu taith bersonol gyda'r iaith yn newid radical sydd i'w groesawu. Roedd cael cyfle i ymateb i gais ac i her CBAC i greu darn o farddoniaeth a fyddai'n addas, yn ddealladwy ac yn cynnig pwyntiau trafod difyr a diddorol, yn ogystal â chreu darn o lenyddiaeth at ddibenion asesu mewn arholiad, yn brofiad a fwynheais yn fawr. Rwy'n gobeithio y bydd fy angerdd personol dros yr iaith yn trosglwyddo i genhedlaeth, neu o bosib, genedlaethau newydd o siaradwyr Cymraeg ac yn agor llygaid, clustiau a chegau!"
Mae'r cymhwyster TGAU newydd mewn Cymraeg Craidd yn rhan o gyfres newydd CBAC o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig sydd ar gael i'w haddysgu o fis Medi 2025.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hadran 'Gwneud-i-Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.