Arholiadau Tachwedd 2022: Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gael nawr
Heddiw cyhoeddwyd gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer y cymwysterau TGAU canlynol a fydd yn cael eu hasesu yn ystod cyfres mis Tachwedd:
Bwriad y wybodaeth ymlaen llaw yw rhoi gwybod, cyn yr arholiadau, beth fydd ffocws cynnwys yr arholiadau, neu ran o'r arholiadau, fydd yn cael ei asesu yn 2022. Pwrpas gwybodaeth ymlaen llaw yw cefnogi'r myfyrwyr wrth iddynt adolygu.
Canllawiau ac adnoddau adolygu ychwanegol
Yn ogystal â'r wybodaeth ymlaen llaw, mae timau'r pynciau ar gael hefyd i'ch cefnogi ac i roi cyngor ymarferol i chi. Mae eu manylion cyswllt i'w gweld ar y tudalennau pwnc perthnasol.
Mae amrywiaeth o adnoddau addysgu a dysgu newydd i'w cael ar ein gwefan Adnoddau Digidol hefyd, gan gynnwys adnoddau Arweiniad i'r Arholiad a Threfnwyr Gwybodaeth, i helpu'ch dysgwyr i baratoi ar gyfer yr arholiadau.
Mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau hefyd wedi crynhoi amrywiaeth o ganllawiau i athrawon a myfyrwyr o ran gwybodaeth ymlaen llaw, sydd ar gael ar eu gwefan.
Os ydych chi'n ddysgwr a rhai pethau ddim yn glir i chi o hyd, gofynnwch i'ch athro – maen nhw'n gwybod popeth y mae angen i chi ei wybod.
Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.