Archwilio adnoddau CBAC Troseddeg newydd a grëwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Birmingham City

Archwilio adnoddau CBAC Troseddeg newydd a grëwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Birmingham City

Mae ein cyfres newydd o adnoddau Dysgu Cyfunol Lefel 3 Troseddeg bellach yn fyw, ac mae ar gael yn rhad ac am ddim o'n gwefan adnoddau addysgol.

Datblygwyd yr adnoddau ar-lein rhyngweithiol hyn ar gyfer Troseddeg mewn partneriaeth ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Birmingham City, ac maen nhw wedi'u cynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n ystyried dyrchafu eu hastudiaethau o'r pwnc i'r lefel nesaf.

Mae ein hadnoddau Troseddeg newydd yn ychwanegol i'n deunyddiau Trefnwyr Gwybodaeth ac Arweiniad i'r Arholiad

Gellir defnyddio deunyddiau Dysgu Cyfunol mewn amrywiaeth o ffyrdd yn dibynnu ar eich dull addysgu ac anghenion eich dysgwyr, y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth.

Gallwch ddysgu mwy am ddulliau gwahanol yn ein herthygl ar sut i wneud y mwyaf o'n hadnoddau dysgu cyfunol

Beth yw'r adnoddau Troseddeg newydd? 

Rydym wedi cyhoeddi wyth adnodd dysgu cyfunol newydd: 

 

Pwy sydd y tu ôl i'r adnoddau? 

Mae pob adnodd wedi'i greu mewn cydweithrediad ag awduron sy'n arbenigwyr pwnc, cyn mynd drwy ein proses sicrhau ansawdd drylwyr. 

Dyma gyflwyno ein hawduron: 

Matt Phillips – Arweinydd y Project 

Mae Matt Phillips yn Ddarlithydd ac yn Ddirprwy Arweinydd Cwrs Troseddeg ym Mhrifysgol Birmingham City. Mae gwaith ymchwil Matt yn canolbwyntio ar effeithiau seiberdroseddu. Yn rhan o'i gwrs PhD ar hyn o bryd mae'n astudio'r heriau sy'n wynebu gwasanaeth gorfodi'r gyfraith yn sgil gwyngalchu arian yn seiliedig ar crypto-cyfred yn y DU. 

Steven Wadley – Cyd-arweinydd 

Mae Steven Wadley yn Uwch Ddarlithydd mewn Plismona ym Mhrifysgol Birmingham City ac mae'n addysgu lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Mae'n gweithio tuag at PhD sy'n archwilio effaith gweithio fel Cwnstabl Gwirfoddol gan ganolbwyntio ar iechyd meddwl, llesiant a chyrhaeddiad academaidd, ochr yn ochr â bod yn fyfyriwr plismona proffesiynol yn llawn amser. 

Dr Adam Lynes – Cyd-arweinydd 

Mae Dr Adam Lynes yn Ddarllenydd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Birmingham City, lle mae wedi addysgu ers 2012, gan ymdrin â thestunau megis damcaniaeth droseddegol, lladdiad, trais, a throseddau trefnedig a chorfforaethol trawswladol. Mae wedi cyhoeddi gwaith ymchwil ar feysydd fel llofruddiaeth gyfresol, twristiaeth dywyll, difodiant teuluol, troseddau cyllyll, a throseddau trefnedig. 

Dr Sharda Murria 

Mae Dr Sharda Murria yn Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Phlismona ym Mhrifysgol Birmingham City. Mae'n ysgolhaig cymdeithasol-gyfreithiol ac yn ddiweddar mae hi wedi cwblhau ei PhD yn archwilio'r defnydd o fideos sy'n cael eu gwisgo ar y corff mewn gweithredoedd stopio a chwilio. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gyfreithlondeb ac atebolrwydd yr heddlu. Mae hi'n angerddol dros gefnogi datblygiad cysylltiadau cadarnhaol rhwng yr heddlu a'r gymuned, yn enwedig ymhlith pobl ifanc a chymunedau lleiafrifoedd ethnig. 

Liam Miles 

Mae Liam Miles yn Ymchwilydd Doethurol ac yn Ddarlithydd Ymweld mewn Troseddeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Birmingham City. Mae ei waith ymchwil yn archwilio sut mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl ifanc yn Birmingham. Er mwyn cyflawni hyn, mae Liam yn defnyddio amrywiol feysydd ymchwiliol gan gynnwys economeg wleidyddol, macro-economeg a damcaniaeth ddiwylliannol. Ochr yn ochr â hyn, mae Liam yn cynnal gwaith ymchwil pellach ar dlodi a chostau byw. Mae'n gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i fynd i'r afael â chostau byw ar lefelau lleol, gan feddwl yn fyd-eang hefyd.   

Mikahil Azad 

Mae Mikahil Sulaiman Azad yn Ddarlithydd mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Caerwrangon ac yn Ymchwilydd PhD mewn Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Birmingham City. Mae gwaith ymchwil Mikahil yn canolbwyntio ar brofiadau o ran diogelwch mewn mosgiau ac o’u cwmpas, a sut i wella diogelwch mosgiau gan ddefnyddio dulliau ethnograffig. Mae Mikahil eisoes wedi cyhoeddi ymchwil ar gam-drin 'ar sail anrhydedd'. 

Sarah Jones 

Mae Sarah Jones yn Ddarlithydd Ymweld mewn Troseddeg ac yn Ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Birmingham City. Mae hi wedi addysgu amrywiaeth o fodiwlau Troseddeg megis The Social Construction of Crime and Deviance, Crime in its Political and Historical Context, The Criminal Justice System, Prisons and Punishment a Crime in the City. Mae ymchwil Israddedig, Meistr a PhD Sarah yn seiliedig ar laddiadau plant a phobl ifanc. Ei meysydd diddordeb yw lladdiadau a throseddau treisgar difrifol, troseddau trefnedig a ffeministiaeth. 

Leon Skerritt 

Mae Leon wedi gweithio ym maes Addysg mewn Carchardai ers pedair blynedd, gan ganolbwyntio ar wydnwch ac ailintegreiddio. Prif ffocws ysgolheictod Troseddeg yw Carchardai a Chosbau a'r cysylltiadau rhwng Terfysgaeth/Troseddau Trefnedig. 

> Mwy o adnoddau addysgu a dysgu ar-lein rhad ac am ddim