Amlinelliadau o gymwysterau Gwneud-i-Gymru ton 2 ac adroddiad o'r ymgynghoriadau ar gael nawr

Rydym yn falch o fod wedi cyhoeddi ein hamlinelliadau terfynol o'r cymwysterau ar gyfer ein cymwysterau ton 2. Bydd y cymwysterau hyn ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.

Dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau, wrth sôn am y garreg filltir hon: "Mae cyhoeddi amlinelliadau o'r cymwysterau yn gam pwysig yn natblygiad y cymwysterau newydd hyn gan fod y rhain yn sylfaen ar gyfer datblygu ein manylebau. Rydw i a'n Tîm Datblygu Cymwysterau yn hynod ddiolchgar i'r mwy na 300 o ymatebwyr a gymerodd yr amser i gynnig adborth adeiladol i'n hymgynghoriadau.

Dros y misoedd nesaf, bydd ein timau'n parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid i gynhyrchu cyfres newydd a chyffrous o gymwysterau a fydd yn helpu i gefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru ac yn cynnig cyfleoedd dysgu newydd a chyffrous i ddysgwyr ledled Cymru."

Yn ogystal â'r amlinelliadau o'r cymwysterau, rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad o'r ymgynghoriadau sy'n amlinellu'r camau rydym wedi'u cymryd, yn seiliedig ar ganlyniadau'r ymgynghoriadau.

Amlinelliadau o'r cymwysterau

Mae'r adroddiadau terfynol o'r cymwysterau ar gael ar gyfer y pynciau canlynol. Mae'r rhain i'w gweld ar dudalen eich pwnc:

TGAU

Cymhwyster nad yw'n TGAU

Llinell amser o weithgareddau

Bydd ein manylebau drafft yn cael eu cyflwyno i Cymwysterau Cymru yn ystod tymor y gwanwyn i'w hadolygu yn erbyn eu gofynion rheoleiddiol – bydd hon yn broses iterus tan y bydd ein cymwysterau wedi'u cymeradwyo.  Byddwn yn cyhoeddi manylebau drafft ar ein gwefan yn ystod tymor yr haf a bydd y fanyleb derfynol wedi'i chymeradwyo yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi. 

Y newyddion diweddaraf

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwnaed i Gymru. Yn barod i'r byd.' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd hyn.

Gwefan Adnoddau Digidol Gwneud-i-Gymru Newydd bellach yn fyw
Blaenorol
Cyhoeddi'r drydedd rownd o fyfyrwyr i ennill Bwrsari Gareth Pierce
Nesaf