
Adnoddau wedi'u teilwra RHAD AC AM DDIM i gefnogi ein cymwysterau Ton 2 Gwneud-i-Gymru
Yn CBAC, rydym yn parhau i gynnig pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth i ganolfannau wrth gyflwyno ein cymwysterau. Mae hyn yn cynnwys mynediad uniongyrchol at arbenigwyr pwnc a thimau cefnogi, cyfleoedd dysgu proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein ledled y wlad, ac adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM.
Wrth i ni barhau â'n taith i ddatblygu'r ail don o'n cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd y pecyn yn adlewyrchu'r gefnogaeth a gynigir ar gyfer y don gyntaf o gymwysterau a bydd yn cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer yr ail grŵp o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2026 ymlaen.
Dyma Melanie Blount, Pennaeth Datblygu Cynnwys, yn sôn am ein hymrwymiad: | |
![]() |
“Mae'r adborth i'r adnoddau cefnogi ar gyfer y Don gyntaf o'n cymwysterau Gwneud-i-Gymru wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac rydym yn hyderus y bydd ein hadnoddau ar gyfer yr ail don yn derbyn yr un brwdfrydedd. Mae ein hadnoddau wedi'u cynllunio gyda'r Cwricwlwm i Gymru mewn golwg, gan alluogi athrawon ledled Cymru i'w haddasu yn ôl eu hardal leol ac anghenion eu dosbarth. Mae hyn yn caniatáu iddynt gynhyrchu adnoddau sy'n berthnasol i'w dysgwyr ac yn eu hysbrydoli. |
Bydd ein hadnoddau dwyieithog yn cael eu datblygu gan ein Timau Pwnc, ar y cyd ag arbenigwyr cwricwlwm o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Bydd pob adnodd newydd yn cael ei gynllunio i gefnogi a gwella addysgu a dysgu, gan ganolbwyntio ar destunau newydd sy'n cael eu cyflwyno o fewn y cymwysterau hyn." |
Ymateb i Adborth
Roedd ein penderfyniad i gynhyrchu'r pecyn hwn yn seiliedig ar arolwg cynhwysfawr a rannwyd â phob canolfan ledled Cymru yn 2023. Dangosodd y canlyniadau fod y mwyafrif o'r ymatebwyr wedi dewis dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth y gellir eu golygu fel eu hoff adnoddau i gefnogi addysgu a dysgu.
Adnoddau y gellir eu golygu
Bydd pob adnodd yn cael ei ddylunio i gefnogi ethos y Cwricwlwm i Gymru, drwy alluogi defnyddwyr i olygu'r adnoddau a'u teilwra yn ôl eu hardal leol. Bydd hyn yn caniatáu i athrawon greu pecyn penodol o adnoddau a fydd yn cefnogi amrywiaeth eang o ddulliau addysgu.
Yn ogystal â'n pecyn newydd o adnoddau, mae ein cyfres bresennol o adnoddau digidol rhad ac am ddim ar gael hefyd, sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau a thestunau sy'n parhau i fod yn rhan o'r gyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru.
Gwefan newydd
Yn ddiweddar, fe wnaethom lansio gwefan Adnoddau Digidol newydd sydd wedi'i chynllunio i wella profiad y defnyddiwr; mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys:
- Nodweddion chwilio gwell, lle gellir chwilio am adnoddau yn ôl lefel, pwnc a manyleb, gan arbed amser.
- Bydd gan athrawon a darlithwyr bellach fynediad at dudalen adnoddau ar-lein bersonol lle gallant gael mynediad at adnoddau y maent wedi'u hoffi, eu golygu neu eu cadw. Mae'r dangosfwrdd hwn sy'n hawdd ei ddefnyddio yn golygu y gellir defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, gan deilwra'r addysgu i bob dysgwr a chreu amgylchedd dynamig a difyr ar gyfer dysgu wedi'i bersonoli. Ar ben hynny, gallant ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Hwb presennol i gyrchu hwn.
- Bydd gan bob adnodd wedi'i deilwra URL unigryw yn hwyluso'r broses o rannu a dysgu o gartref. Drwy gynnig y swyddogaethau unigryw a newydd hyn, bydd ein hadnoddau Gwneud-i-Gymru yn cynnig y cyfle i athrawon a darlithwyr greu profiadau dysgu personol, difyr a chynhwysol, gan sicrhau bod y lefel briodol o gefnogaeth yn cael ei chynnig.
Amserlen cyhoeddi
Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2025, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn haf 2026.
Ymunwch â'n tîm
Mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys athrawon a darlithwyr i gynhyrchu ein hadnoddau. Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi ein gwaith, cysylltwch â'n tîm drwy adnoddau@cbac.co.uk
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hadran 'Gwneud-i-Gymru' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.