Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen
Mae'r fanyleb hon yn rhoi cyfle i ddysgwyr gyflawni dau gymhwyster. Yn dibynnu ar lefel y dysgwr, gallai ennill y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol neu Sylfaen; a'r Dystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol neu Sylfaen.
Sut mae dysgwyr yn ennill Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen?
I ennill y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen, mae'n rhaid i ddysgwr gwblhau pob elfen o'r olwyn isod.
Dyfernir Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol ar radd Llwyddo pan fydd dysgwyr yn cyflawni pob elfen o'r olwyn ar radd A* i C. Dyfernir Bagloriaeth Cymru Sylfaen ar radd Llwyddo pan fydd dysgwyr yn cyflawni Llwyddo* neu Llwyddo yn y Dystysgrif Her Sgiliau, ac A* i G yn y cymwysterau eraill ar yr olwyn. Mae 'Olwyn Bagloriaeth Cymru' yn dangos gallu a chymhwysedd sgiliau academaidd dysgwr i gyd mewn un lle. |
Sut mae dysgwyr yn cyflawni Cymhwyster Tystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen?
Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn gymhwyster annibynnol.Gellir ei gyflawni a'i ddyfarnu o hyd, hyd yn oed heb y cymwysterau eraill sy'n rhan o Fagloriaeth Cymru. Elfen uchaf yr olwyn Bagloriaeth Cymru yw'r Dystysgrif Her Sgiliau a gynlluniwyd i ddarparu cyfrwng i ddysgwyr 14-16 oed atgyfnerthu a datblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd. Bydd y cymhwyster yn helpu dysgwyr i baratoi ar gyfer y dyfodol drwy feithrin sgiliau, priodoleddau a mathau o ymddygiad a gaiff eu gwerthfawrogi gan addysgwyr ôl-16 a darpar gyflogwyr.
Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau ar lefel Genedlaethol/Sylfaen wedi'i graddio fel a ganlyn:
Tystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol – Gradd A* i C
Tystysgrif Her Sgiliau Sylfaen – Llwyddo* neu Llwyddo
Trosolwg o'r Dystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol/Sylfaen Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn cynnwys 4 cydran:
- Project Unigol (50%)
- Her Menter a Chyflogadwyedd (20%)
- Her Dinasyddiaeth Fyd-eang (15%)
- Her y Gymuned (15%)
Ar draws y 4 cydran hyn, asesir 7 sgìl hanfodol a chyflogadwyedd:
Llythrennedd |
Dangos sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando i gyfathrebu syniadau yn effeithiol ag eraill. |
Rhifedd |
Casglu, dehongli a chyflwyno data rhifiadol neu wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau gan ddefnyddio technegau digidol. |
Llythrennedd Digidol |
Deall a defnyddio technolegau digidol yn effeithiol at ddibenion gwahanol. |
Cynllunio a Threfnu |
Rheoli eich hun, pobl eraill, adnoddau ac amgylchiadau i gyrraedd nod penodol. |
Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau |
Casglu gwybodaeth allweddol i adnabod safbwyntiau gwahanol a gwneud penderfyniadau i ddatrys problemau. |
Creadigrwydd ac Arloesi |
Addasu sgiliau a phriodoleddau personol i gyflawni targedau a osodwyd. |
Effeithiolrwydd Personol |
Addasu sgiliau a phriodoleddau personol i gyflawni targedau a osodwyd. |
Cyflwyniad i Ddeunyddiau ar Porth | |
Darganfyddwch ein Hadnoddau Digidol |
Datgloi potensial eich dysgwyr gydag ystod drawiadol o adnoddau digidol AM DDIM, offer addysgu a deunyddiau.
|