TGAU Sbaeneg - Dysgu o 2025
Dysgu Proffesiynol
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio
Bydd y cymhwyster TGAU Sbaeneg yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru fel a ganlyn:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- sicrhau bod gwybodaeth a sgiliau mewn un iaith yn cael eu trosglwyddo a'u meithrin mewn ieithoedd eraill
- datblygu eu dealltwriaeth, eu hempathi a'u gallu i ymateb a chyfryngu'n effeithiol
- defnyddio ieithoedd er mwyn bod yn effeithiol wrth ryngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth
- cynnig profiadau llenyddol, sy'n gallu ennyn eu diddordeb fel gwrandawyr, gwylwyr, darllenwyr, storïwyr a llenorion.
- Cefnogi egwyddorion cynnydd drwy roi cyfle i ddysgwyr:
- adeiladu ar eu sgiliau ieithyddol
- tyfu mewn ffordd gyfannol o ran sut maen nhw'n deall ac yn gallu gwneud defnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- datblygu eu repertoire ieithyddol drwy ddod i ddeall sut mae eu hieithoedd eu hunain yn gweithio
- addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol
- meithrin sgiliau iaith derbyn, dehongli a mynegi
- trosglwyddo'r wybodaeth a'r sgiliau sydd ganddyn nhw'n barod i gyd-destunau newydd gan gynnwys yr agweddau cymdeithasol a diwylliannol ar iaith.
- Cefnogi'r Ystyriaethau Allweddol ar gyfer Datblygu Ieithoedd drwy roi cyfle i ddysgwyr:
-
- ddatblygu ymwybyddiaeth ffonolegol ac ymwybyddiaeth ffonemig
- parhau i wneud cynnydd ym mhob un o'u hieithoedd o'u mannau cychwyn gwahanol.
Bydd y cymhwyster TGAU Sbaeneg hefyd yn seiliedig ar y canlynol:
- deall ac ymateb i iaith lafar ac ysgrifenedig
- nodi negeseuon a dod i gasgliadau
- defnyddio gwybodaeth am ramadeg
- cyfieithu o iaith yr astudiaeth ac yn ôl iddi
- cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol wrth siarad ac yn ysgrifenedig
- rhestr eirfa graidd sy'n seiliedig ar eirfa sy'n cael ei defnyddio'n aml ac iaith bob dydd
- defnyddio ynganiad a goslef cywir
- defnyddio gwybodaeth am adnabyddiaeth ddiwylliannol a rhanbarthol.
Bydd Unedau 1, 3 a 4 yn seiliedig ar y themâu eang canlynol (mae is-themâu’n cael eu rhoi mewn cromfachau fel enghreifftiau o’r hyn y gallai pob thema eang ei gynnwys):
- iaith ar gyfer hamdden a llesiant, er enghraifft: corff iach, meddwl iach, eich hun a pherthnasoedd, defnyddio technoleg a'r cyfryngau
- iaith ar gyfer teithio, er enghraifft: teithio o gwmpas y byd, diwylliant y wlad lle mae'r iaith yn cael ei siarad, cynaliadwyedd
- iaith ar gyfer astudio a gweithio, er enghraifft: cyfleoedd i astudio a gweithio, gweithio gydag ieithoedd gartref a thramor.
![photo of Jo Vincent](/media/oi5ps5wx/jo-vincent.jpg?anchor=center&mode=crop&width=200&height=200&rnd=133071989756800000)
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
![Jo Vincent](/media/oi5ps5wx/jo-vincent.jpg?anchor=center&mode=crop&width=100&height=100&rnd=133071989756800000)
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol