TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant - Dysgu o 2026

Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Bydd y cymhwyster TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:

  • cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr: 
    • ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd corfforol a llesiant drwy gydol oes unigolyn, gan gynnwys ymddygiadau sy'n hybu iechyd e.e. gweithgarwch corfforol, a deall ymddygiadau sy'n niweidiol i iechyd 
    • datblygu ymddygiadau cadarnhaol, gwybodus sy'n annog dysgwyr i barchu a gofalu am eu hunain ac eraill mewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, ac yng nghyd-destun gofal plant 
    • archwilio’r cysylltiadau rhwng eu profiadau, eu hiechyd meddwl a’u llesiant emosiynol 
    • creu diwylliant sy'n normaleiddio siarad am iechyd meddwl a llesiant emosiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant 
    • datblygu’r sgiliau meddwl beirniadol angenrheidiol er mwyn gallu pwyso a mesur goblygiadau posibl eu penderfyniadau, gan gynnwys y risg, iddyn nhw ac i eraill 
    • ymwneud yn feirniadol â dylanwadau cymdeithasol o fewn eu diwylliant eu hunain yn ogystal â diwylliannau eraill, er mwyn deall sut y mae normau a gwerthoedd yn datblygu 
    • deall sut mae penderfyniadau a gweithredoedd yn cael effaith ar y dysgwyr eu hunain, ar eraill, ac ar gymdeithas ehangach, a hynny yn y presennol a’r dyfodol 
    • deall y ffactorau sy’n dylanwadu ar wneud penderfyniadau, gan eu rhoi mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau gwybodus ac ystyriol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant 
    • datblygu’r sgiliau meddwl beirniadol angenrheidiol er mwyn gallu pwyso a mesur goblygiadau posibl eu penderfyniadau yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant. 
  • cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i: 
    • ddatblygu eu hannibyniaeth a'u gweithrediaeth mewn materion sy'n ymwneud ag iechyd a llesiant, gan arwain at gyfrifoldeb cynyddol am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain 
    • datblygu gwybodaeth gysyniadol a dealltwriaeth feirniadol mewn amrywiaeth o agweddau ar iechyd a llesiant ac ymddygiad personol 
    • datblygu cysylltiadau rhwng agweddau ar iechyd a llesiant ac ystod eang o bynciau a materion mewn cyd-destunau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant
    • datblygu gwerthfawrogiad o anghenion eraill mewn cyd-destunau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant ac effaith penderfyniadau, camau gweithredu ac amgylchiadau 
    • dod yn fwy cymdeithasol gyfrifol 
    • datblygu dealltwriaeth o eiriolaeth ar ran eu hunain ac ar ran eraill drwy gyd-destunau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant 
  • cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant drwy roi'r cyfle i ddysgwyr: 
    • datblygu sgiliau llythrennedd, gallu trefnu ysgrifennu ac addasu iaith yn hyderus, gan alluogi dysgwyr i ymgeisio am lwybrau dysgu a gyrfa o’u dewis, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a/neu ofal plant o bosibl 
    • cefnogi dysgwyr i archwilio a deall newidiadau datblygiadol ar hyd y rhychwant oes yn fanwl, yn ogystal â sut mae'r newidiadau hynny yn effeithio ar unigolion mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol 
    • dysgu a deall sut i asesu a rheoli risg fel y gallan nhw gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, gan gynnwys diogelu mewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant 
    • adfyfyrio ar oblygiadau tymor byr, tymor canolig a hirdymor y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud. Dylid cydnabod nad oes gan ddysgwyr o angenrheidrwydd gyfrifoldeb dros lawer o’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a bod y cyfrifoldeb hwn yn tyfu dros gyfnod o amser 
    • deall y rôl y gall dylanwadau cymdeithasol ei chwarae mewn perthynas ag ymddygiad dysgwyr, a’r dylanwadau a all hyrwyddo ac annog ymddygiadau iach er lles y gymdeithas, yn ogystal â’r rhai sy’n arwain at faterion megis gwahaniaethu, hiliaeth neu ragfarn ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant 
    • deall rôl a phwysigrwydd cydberthnasau megis teulu a chyfeillion, anifeiliaid/anifeiliaid anwes, cyfoedion, proffesiynol, rhithiol, rhamantus, rhywiol, crefyddol ac ysbrydol – drwy gyd-destunau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, a'r cydberthnasau hynny nad ydynt eto’n gyfarwydd iddyn nhw ond eu bod yn debygol iawn o ddod ar eu traws yn ystod eu bywydau neu wrth weithio yn y sectorau.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol
  • Cyrsiau i ddod
photo of Karen Bushell
Oes gennych chi gwestiwn?
Karen Bushell ydw i
phone_outline 02922 404 264
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Kwai Wong
phone_outline 02922 404 264
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Karen Bushell