TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg - Dysgu o 2025
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Bydd y cymhwyster TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy:
- Gefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
- datblygu eu dealltwriaeth, eu hempathi a'u gallu i ymateb a chyfryngu'n
- effeithiol
- rhyngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a
- dealltwriaeth a meithrin perthnasoedd
- profi ac ymateb i amrywiaeth o lenyddiaeth amrywiol sy’n cynnig
- mewnwelediad i ddiwylliant, pobl a hanes Cymru yn ogystal â’r byd ehangach
- tanio dychymyg a chreadigrwydd.
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
- adeiladu ar eu sgiliau ieithyddol
- tyfu'n holistaidd o ran eu dealltwriaeth a'u defnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- cymhwyso eu dealltwriaeth o gysyniadau ieithyddol
- addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag ystod o wahanol gynulleidfaoedd
- datblygu sgiliau derbyn, dehongli a mynegi iaith
- trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau presennol i gyd-destunau newydd gan gynnwys agweddau cymdeithasol a diwylliannol iaith.
- Cefnogi'r ystyriaethau allweddol ar gyfer datblygiad iaith a dewis llenyddiaeth, gan roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
-
- profi ysgogiadau perthnasol, cyffrous, dilys a heriol er mwyn ysbrydoli siarad ac ysgrifennu pwrpasol
- profi cyfoeth o lenyddiaeth
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM
Er mwyn cefnogi ein canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn cynnwys 130 o becynnau i ddechrau, sy'n cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer y grŵp cyntaf o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025.
Amserlen cyhoeddi
Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2024, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn Mehefin 2025.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Gor
Medi
Rhag