TGAU Gwyddoniaeth (Gradd Unigol) - Dysgu o 2026
Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio
Mae'r cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth (Gradd Unigol) wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth fras i ddysgwyr o gysyniadau sylfaenol bioleg, cemeg a ffiseg. Mae'n pwysleisio rhynggysylltrwydd egwyddorion gwyddonol, sgiliau ymholi, a'r ffordd y caiff gwyddoniaeth ei chymhwyso mewn bywyd pob dydd.
Bydd y cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth (Gradd Unigol) yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:
- cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i ddysgwyr ymgysylltu â'r canlynol:
- chwilfrydedd – mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau
- pethau byw – mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi
- mater – mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau
- grymoedd – mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd.
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy wneud y canlynol:
- datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol
- defnyddio, cymhwyso a gwerthuso sgiliau ymholi gwyddonol
- dod yn fwy effeithiol fel dysgwr, er mwyn datrys problemau gwyddonol yn fwy annibynnol
- gwneud cysylltiadau ac archwilio cyd-destunau newydd, gan ystyried effeithiau gweithredoedd gwyddonol.
Swyddog Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.

Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.