TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol - Dysgu o 2026
Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio
Bydd y cymhwyster TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- fynd i’r afael â genres, technegau, offer, deunyddiau a dulliau sy'n eu galluogi i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol
- dod i ddeall y ffordd y mae’r celfyddydau mynegiannol yn cyfathrebu drwy ddulliau gweledol, corfforol, geiriol, cerddorol a thechnolegol
- meithrin eu dychymyg a thynnu ar eu profiadau, eu sgiliau a’u doniau er mwyn iddyn nhw ddod yn artistiaid creadigol eu hunain
- edrych ar waith o ddiwylliannau a chymdeithasau amrywiol, gan ddysgu am eu dylanwadau, eu hanesion a'u heffaith
- ystyried gwaith creadigol mewn amrywiaeth o gyfryngau, ffurfiau, genres ac arddulliau
- dysgu sgiliau dadansoddi pwysig o fireinio a dadansoddi
- adfyfyrio ar effeithiolrwydd eu gwaith eu hunain a gwaith eraill, gan gynnwys gwaith artistiaid amrywiol o Gymru a thu hwnt
- bod yn arloesol a beiddgar, a chreu gwaith unigol
- cyfathrebu drwy amrywiaeth o ffurfiau a chyfryngau digidol
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
- archwilio, profi, dehongli, creu ac ymateb i ystyr sy'n gynyddol gymhleth
- datblygu dysgu cysyniadol sy'n gynyddol soffistigedig
- datblygu defnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol a'r gallu i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destun newydd.
- Cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer y Ffilm a Chyfryngau Digidol drwy roi cyfle i ddysgwyr ystyried:
- Agweddau ar gyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu, gan gynnwys golygu, sinematograffi; sain, dylunio cynhyrchiad (gan gynnwys mise-en-scène), naratif, arddull, genre.
- Cynhyrchion a ffurfiau: ffilm, teledu, sain (podledu a radio digidol), gemau fideo, gwefannau.
- Dosbarthu ac arddangos: llwyfannau ar-lein (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwefannau ffrydio), sinema, teledu digidol, llwyfannau gemau fideo.
- Cynhyrchwyr a chynulleidfaoedd, gan gynnwys defnyddwyr, ‘cynhyrchwyr ddefnyddwyr’, gwylwyr, crëwyr cynnwys.
- Negeseuon, moeseg a materion: cynrychioli pobl, hunaniaethau, lleoedd a chymdeithas, rhaniad digidol, materion cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys preifatrwydd, tuedd a chamwybodaeth).

Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.