TGAU Dylunio a Thechnoleg - Dysgu o 2026

Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Mae'r cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg yn cael ei lunio ar sail ystyriaethau pwncbenodol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Bydd y cymhwyster:

  • drwy'r broses ddylunio a datblygu, yn caniatáu i ddysgwyr archwilio ac ymateb i gyddestunau amrywiol ac adfyfyrio ar eu gwaith eu hunain. Ar yr un pryd, byddant hefyd yn ymwneud â phrofiadau sy'n gyfoethog ac yn ddilys. 

Mae'r datganiadau canlynol ar gyfer y cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg yn seiliedig ar y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig gan  Lywodraeth Cymru ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg: 

  • mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau 
  • mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas
  • mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi
  • mae mater, a’r ffordd y mae’n ymddwyn, yn diffinio ein bydysawd ac yn ffurfio ein bywydau • mae grymoedd ac egni yn gosod sail i ddeall ein bydysawd
  • mae cyfrifiaduraeth yn gosod sail i’n byd digidol.

Bydd y cymhwyster TGAU Dylunio a Thechnoleg yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy gefnogi'r egwyddorion cynnydd:

  • effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr drwy ddatblygu eu defnydd o sgiliau
  • ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol drwy archwilio a phrofi syniadau a chysyniadau cynyddol gymhleth
  • dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau a phrofiad
  • datblygu gallu dysgwyr i ymchwilio, archwilio, datrys problemau a dylunio yn yr amgylcheddau ffisegol a digidol
  • caniatáu i ddysgwyr wneud cysylltiadau a throsglwyddo eu dysgu i gyd-destunau newydd
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol
  • Cyrsiau i ddod
photo of Jason Cates
Oes gennych chi gwestiwn?
Jason Cates ydw i
phone_outline 02922 404 303
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Jason Cates
phone_outline 02922 404 303
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?