TGAU Dawns - Dysgu o 2026

Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Bydd y cymhwyster TGAU Dawns yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:

  • Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
    • archwilio eu gwaith creadigol eu hunain a gwaith eraill, mynd i’r afael â genres, technegau, offer, deunyddiau ac arferion a'u galluogi i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol
    • archwilio eu hetifeddiaeth ddiwylliannol eu hunain yn ogystal â rhai pobl, llefydd a chyfnodau eraill. Trwy hyn gallan nhw ddarganfod sut y gellir defnyddio’r celfyddydau mynegiannol i ffurfio a mynegi hunaniaeth bersonol, gymdeithasol a diwylliannol
    • dysgu sut y gall sgiliau dadansoddi pwysig o fireinio a dadansoddi gyfrannu at eu datblygiad creadigol. 
  • Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
    • archwilio, profi, dehongli, creu ac ymateb drwy ddawns mewn amgylchedd diogel
    • gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill
    • dysgu a mireinio gwahanol fathau o wybodaeth a sgiliau, gan gynnwys y technegau, y prosesau a'r sgiliau sydd eu hangen i greu a dehongli
    • dysgu a mireinio gwahanol fathau o wybodaeth a sgiliau, gan gynnwys y technegau, y prosesau a'r sgiliau sydd eu hangen i greu a dehongli
    • dangos defnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol a'r gallu i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau newydd. 
  • Cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer y maes hwn drwy roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
    • archwilio, ymateb i ysgogiadau a chreu ac adfyfyrio ar eu gwaith eu hunain. Ar yr un pryd, byddant hefyd yn ymwneud â phrofiadau sy'n gyfoethog ac yn ddilys
    • meithrin dealltwriaeth o berfformio, coreograffi a gwerthfawrogiad ar draws ystod o arddulliau.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol
  • Cyrsiau i ddod
Oes gennych chi gwestiwn?
Victoria Husband ydw i
phone_outline 029 2026 5470
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.