TGAU Cymraeg Craidd - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Mae lluniad cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd yn seiliedig ar ystyriaethau pwnc penodol Llywodraeth Cymru a datganiadau o'r hyn sy'n bwysig i Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu:

  • deall y byd o'n hamgylch
  • mwynhau'r Gymraeg a gweld gwerth i'r iaith honno y tu allan i'r ystafell ddosbarth
  • defnyddio iaith sy'n gysylltiedig â diddordebau
  • datblygu'r defnydd o'r Gymraeg ar gyfer cymdeithasu ac yn y gweithle
  • amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddysgwyr glywed, gweld a darllen deunydd sy'n gyfoethog ac amrywiol yn yr iaith Gymraeg
  • meithrin sgiliau ieithyddol er mwyn defnyddio'r Gymraeg yn hyderus.

Bydd y cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:

  • Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig , gan roi cyfle i'r dysgwyr:
    • ddatblygu eu dealltwriaeth, eu hempathi a'u gallu i ymateb a chyfryngu'n effeithiol
    • rhyngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth ac adeiladu perthnasoedd
    • profi ac ymateb i amrywiaeth o weithiau llenyddol amrywiol sy'n rhoi mewnwelediad iddyn nhw o ddiwylliant, pobl a hanes Cymru a hefyd y byd ehangach
    • sbarduno eu dychymyg a'u creadigrwydd.
  • Cefnogi egwyddorion dilyniant drwy roi cyfle i ddysgwyr:
  • adeiladu ar eu sgiliau ieithyddol
    • tyfu mewn ffordd gyfannol o ran sut maen nhw'n deall ac yn gallu gwneud defnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
    • datblygu eu repertoire ieithyddol drwy ddeall sut mae'r Gymraeg yn gweithio
    • addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol
    • meithrin sgiliau iaith derbyn, dehongli a mynegi
    • trosglwyddo'r wybodaeth a'r sgiliau sydd ganddyn nhw'n barod i gyd-destunau newydd gan gynnwys yr agweddau cymdeithasol a diwylliannol ar iaith.
  • Cefnogi'r ystyriaethau allweddol ar gyfer datblygu ieithoedd drwy roi cyfle i ddysgwyr:
  • ddatblygu ymwybyddiaeth ffonolegol ac ymwybyddiaeth ffonemig
  • adeiladu ar wybodaeth flaenorol dysgwyr o iaith (ieithouedd) i gefnogi dysgu'r Gymraeg
  • glywed, gweld, a darllen Cymraeg cyfoethog ac amrywiol
  • darparu cyfleoedd addas a digonol i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg mewn ffordd bwrpasol ac mewn cyd-destun dilys.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Adnoddau Digidol

Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM

 

Er mwyn cefnogi ein canolfannau i gyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd, rydym yn falch o gadarnhau y bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn cynhyrchu pecyn o adnoddau dwyieithog RHAD AC AM DDIM ar gyfer pob pwnc. Bydd hyn yn cynnwys 130 o becynnau i ddechrau, sy'n cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth ar gyfer y grŵp cyntaf o gymwysterau a fydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. 

 

Amserlen cyhoeddi

 

Bydd ein Tîm Adnoddau Digidol yn gweithio'n gyflym i gynhyrchu'r deunyddiau cefnogi newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi fesul cam gan ddechrau o ddiwedd yr hydref 2024, a bydd y gyfres lawn o adnoddau dwyieithog ar gael erbyn Mehefin 2025. 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
photo of Sian Llewelyn
Oes gennych chi gwestiwn?
Sian Llewelyn ydw i
phone_outline 029 2240 4255
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Sara James
phone_outline 029 2240 4255
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Sian Llywelyn
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol