TGAU Cyfrifiadureg - Dysgu o 2025
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Bydd y cymhwyster TGAU Cyfrifiadureg yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr
- ddatblygu a rhoi prawf ar fodelau
- ystyried effaith gymdeithasol, proffesiynol, moesegol, amgylcheddol a chyfreithiol systemau a'r defnydd o dechnoleg
- dod yn ddatryswyr problemau mentrus yn y byd go iawn drwy ddatblygu sgiliau meddwl cyfrifiannol
- Cefnogi egwyddorion cynnydd
- drwy annog datrys problemau a dylunio iterus
- archwilio a chael profiad o syniadau cynyddol gymhleth (er enghraifft mewn tasgau rhaglennu yn y briff sy'n cael ei ryddhau ymlaen llaw sy'n cael eu mireinio a'u hehangu ymhellach yn yr arholiad).
- Cefnogi'r ystyriaethau penodol ar gyfer y maes hwn drwy roi cyfle i ddysgwyr:
- ddysgu am ddylunio, datblygu a chymhwyso technoleg, meddalwedd a systemau
- meithrin dealltwriaeth o sut gall technolegau effeithio ar fywydau dysgwyr a'u gyrfaoedd yn y dyfodol
Bydd y cymhwyster TGAU Cyfrifiadureg yn seiliedig hefyd ar y cysyniadau cyfrifiadureg canlynol sy'n seiliedig ar y testunau sydd wedi'i rhestru yn 6-8 o'r Meini Prawf Cymeradwyo cyhoeddedig:
- saernïaeth gyfrifiadurol
- strwythur a gweithrediad systemau
- sut mae systemau'n cyfathrebu
- diogelwch
- datrys problemau
- algorithmig
- dadelfennu gweithredol
- rhaglennu
- iaith a chrynoyddion
- gweithrediadau rhesymegol
- systemau gweithredu
- cylchred oes datblygu systemau
Bydd cynnwys pwnc y cymhwyster TGAU Cyfrifiadureg hefyd yn cynnwys amrediad o ddimensiynau cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol, amgylcheddol a phroffesiynol sy'n berthnasol i'r meysydd testun uchod ac sydd wedi'u hintegreiddio iddynt.
Bydd cynnwys sy'n ymwneud ag esblygiad technolegau sy'n berthnasol i'r testunau a amlinellir uchod, lle y bo'n briodol, hefyd yn rhan o'r cymhwyster TGAU Cyfrifiadureg.
Gor
Medi
Rhag