TGAU Astudiaethau Cymdeithasol - Dysgu o 2026
Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio
Bydd y cymhwyster TGAU Astudiaethau Cymdeithasol yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a sut i'w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang
- archwilio cysyniadau gan gynnwys cwestiynu, tystiolaeth, gwerthuso, moeseg a barn
- datblygu eu safbwyntiau gwybodus eu hunain, ynghyd â chydnabod barn eraill
- casglu, cyfiawnhau, cyflwyno, dadansoddi a gwerthuso ystod o dystiolaeth
- archwilio sut a pham y gall dehongliadau fod yn wahanol, a datblygu dealltwriaeth feirniadol o ystod o ddehongliadau a chynrychioliadau, a gasglwyd o amrywiaeth o dystiolaeth
- deall a gwerthfawrogi sut a pham mae lleoedd yn newid yn eu hardal nhw ac mewn mannau eraill yng Nghymru, yn ogystal ag yn fyd-eang
- meithrin eu hunaniaeth eu hunain ac ymwybyddiaeth o sut y gallan nhw, fel unigolion, siapio'r cymunedau y maen nhw'n byw ynddyn nhw
- datblygu gwerthfawrogiad o hunaniaeth, treftadaeth a chynefin, a helpu i greu ymdeimlad o hunan ac o berthyn
- gwerthfawrogi sut mae esblygiad lleoedd, cymunedau a chymdeithasau yn cael ei sbarduno gan y rhyngweithio sydd rhwng ystod o ffactorau, gan gynnwys prosesau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, ynghyd â gweithredoedd dynol
- datblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae cymdeithasau wedi cael eu trefnu, eu strwythuro a’u harwain, yn ardal leol y dysgwr ei hun, yng Nghymru, a hefyd yn y byd yn ehangach
- bod yn ddinasyddion a defnyddwyr gweithredol, gwybodus a chyfrifol sy’n gallu uniaethu â’u cymunedau a chyfrannu atyn nhw, yn ogystal â gallu mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol sy’n wynebu’r dysgwyr, eu cymunedau, Cymru yn ogystal â’r byd ehangach
- datblygu fel dinasyddion byd-eang hunanymwybodol, gwybodus ac egwyddorol sy'n myfyrio'n feirniadol ar eu credoau, eu gwerthoedd a'u hagweddau eu hunain ac eraill
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
- ofyn cwestiynau ymholi cynyddol soffistigedig
- dangos mwy o annibyniaeth wrth ddod o hyd i wybodaeth addas, gan wneud rhagfynegiadau a damcaniaethau gwybodus, a ffurfio barn
- gallu gweithio'n fwy effeithiol gydag eraill, yn enwedig wrth gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny
- cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol
- meithrin dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain yn y byd
- dangos eu bod yn gallu gweithio gyda nifer cynyddol o ffynonellau gwybodaeth fwy soffistigedig, a dealltwriaeth gynyddol o ffyrdd o ymdrin â hanesion anghyson
- mireinio sgiliau disgyblaethol allweddol yn barhaus a datblygu soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a’u cymhwyso, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag ymholi, megis llunio cwestiynau a defnyddio tystiolaeth i lunio ac ategu ateb a’r rhai sy’n ymwneud â chynrychioli a dehongli canlyniadau ymholiad
- dangos gallu cynyddol i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau newydd, a chynyddol anghyfarwydd
- dangos mwy o allu i ddylanwadu ar ddigwyddiadau drwy fod yn ddinasyddion gwybodus a chyfrifol.
- Cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer Astudiaethau Cymdeithasol drwy:
- ddatblygu dealltwriaeth o’r ddisgyblaeth a’i gwerth
- hybu dealltwriaeth gysyniadol o’r byd trwy ddysgu am bobl a’u gwerthoedd, mewn cyfnodau, lleoedd a sefyllfaoedd gwahanol
- cynnig cyd-destunau cyfoethog i archwilio materion cymdeithasol, hunaniaeth, hawliau a chyfrifoldebau, a chyfundrefn cymdeithasol
- hybu cyfranogiad gweithredol ac ymwneud â materion cymdeithasol trwy ymholi cymdeithasol, trafodaethau a gweithredu cymdeithasol
- datblygu dealltwriaeth o sut mae systemau llywodraeth yng Nghymru yn gweithio gan ystyried eu heffaith ar fywydau pobl, a sut maen nhw’n cymharu â systemau eraill
- archwilio cysyniadau llywodraethiant, hawliau, cyfartaledd, anghyfartaledd, ethnigrwydd, rhywedd a thlodi.

Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.