TGAU Almaeneg - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Bydd y cymhwyster TGAU Almaeneg yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru fel a ganlyn:

  • Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
    • sicrhau bod gwybodaeth a sgiliau mewn un iaith yn cael eu trosglwyddo a'u meithrin mewn ieithoedd eraill
    • datblygu eu dealltwriaeth, eu hempathi a'u gallu i ymateb a chyfryngu'n effeithiol
    • defnyddio ieithoedd er mwyn bod yn effeithiol wrth ryngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth
    • cynnig profiadau llenyddol, sy'n gallu ennyn eu diddordeb fel gwrandawyr, gwylwyr, darllenwyr, storïwyr a llenorion.
  • Cefnogi egwyddorion cynnydd drwy roi cyfle i ddysgwyr:
    • adeiladu ar eu sgiliau ieithyddol
    • tyfu mewn ffordd gyfannol o ran sut maen nhw'n deall ac yn gallu gwneud defnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
    • datblygu eu repertoire ieithyddol drwy ddod i ddeall sut mae eu hieithoedd eu hunain yn gweithio
    • addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol
    • meithrin sgiliau iaith derbyn, dehongli a mynegi
    • trosglwyddo'r wybodaeth a'r sgiliau sydd ganddyn nhw'n barod i gyd-destunau newydd gan gynnwys yr agweddau cymdeithasol a diwylliannol ar iaith.
  • Cefnogi'r Ystyriaethau Allweddol ar gyfer Datblygu Ieithoedd drwy roi cyfle i ddysgwyr:
    • ddatblygu ymwybyddiaeth ffonolegol ac ymwybyddiaeth ffonemig
    • parhau i wneud cynnydd ym mhob un o'u hieithoedd o'u mannau cychwyn gwahanol.

 

Bydd y cymhwyster TGAU Almaeneg hefyd yn seiliedig ar y canlynol:

  • deall ac ymateb i iaith lafar ac ysgrifenedig
  • nodi negeseuon a dod i gasgliadau
  • defnyddio gwybodaeth am ramadeg
  • cyfieithu o iaith yr astudiaeth ac yn ôl iddi
  • cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol wrth siarad ac yn ysgrifenedig
  • rhestr eirfa graidd sy'n seiliedig ar eirfa sy'n cael ei defnyddio'n aml ac iaith bob dydd
  • defnyddio ynganiad a goslef cywir
  • defnyddio gwybodaeth am adnabyddiaeth ddiwylliannol a rhanbarthol.

 

Bydd Unedau 1, 3 a 4 yn seiliedig ar y themâu eang canlynol (mae is-themâu’n cael eu rhoi mewn cromfachau fel enghreifftiau o’r hyn y gallai pob thema eang ei gynnwys):

  • iaith ar gyfer hamdden a llesiant, er enghraifft: corff iach, meddwl iach, eich hun a pherthnasoedd, defnyddio technoleg a'r cyfryngau
  • iaith ar gyfer teithio, er enghraifft: teithio o gwmpas y byd, diwylliant y wlad lle mae'r iaith yn cael ei siarad, cynaliadwyedd
  • iaith ar gyfer astudio a gweithio, er enghraifft: cyfleoedd i astudio a gweithio, gweithio gydag ieithoedd gartref a thramor.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Cyrsiau i ddod
photo of Naomi Taylor
Oes gennych chi gwestiwn?
Naomi Taylor ydw i
Phone icon (Welsh) 029 2240 4297
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Candice Dempster
Phone icon (Welsh) 029 2240 4297
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Naomi Taylor
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol