TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd - Dysgu o 2026
Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio
Bydd y cymhwyster TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:
- cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- deall y ffactorau sy’n effeithio ar iechyd a llesiant y corff. Mae hyn yn cynnwys arferion sy’n hybu iechyd megis gweithgareddau corfforol gan gynnwys chwaraeon a gweithgareddau eraill
- datblygu arferion gwybodus, cadarnhaol sy’n eu hannog i warchod, yn ogystal â pharchu eu hunain ac eraill. Mae’r arferion hyn yn cefnogi ymdeimlad dysgwyr o hunan-werth, eu hwyliau’n gyffredinol a’u lefelau egni
- datblygu’r hyder, cymhelliant, gallu corfforol, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd o gymorth iddyn nhw fyw bywyd iach a gweithredol sy’n hyrwyddo iechyd a llesiant y corff cadarnhaol
- deall sut mae penderfyniadau a gweithredoedd yn cael effaith ar y dysgwyr eu hunain, ar eraill, ac ar y gymdeithas ehangach, a hynny yn y presennol a’r dyfodol. Gall hefyd fod o gymorth i ddysgwyr ddeall y ffactorau sy’n dylanwadu ar wneud penderfyniadau, gan eu rhoi mewn gwell safle i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ac ystyriol
- datblygu’r sgiliau meddwl beirniadol angenrheidiol er mwyn gallu pwyso a mesur goblygiadau posibl eu penderfyniadau
- deall rôl bwysig dylanwadau cymdeithasol ar eu bywydau.
- cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
- ailymweld â’r dysgu a chryfhau’r dysgu mewn cysyniadau yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar draws ystod eang o bynciau ac agweddau ar addysg gorfforol ac iechyd
- datblygu eu hannibyniaeth a'u gweithrediaeth mewn materion sy'n ymwneud ag addysg gorfforol ac iechyd: gan arwain at gyfrifoldeb cynyddol am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain
- datblygu eu gallu i wneud, cyfiawnhau a gwerthuso penderfyniadau ar draws yr ystod o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig
- datblygu gwybodaeth gysyniadol a dealltwriaeth feirniadol mewn amrywiaeth o agweddau ar addysg gorfforol ac iechyd
- datblygu sgiliau ymarferol, gan ddatblygu cywirdeb a hyfedredd cynyddol
- trosglwyddo dealltwriaeth o'u llesiant eu hunain i lesiant eraill; gan ddod yn fwy cyfrifol yn gymdeithasol
- cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd drwy ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr:
- cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol ac ymwneud â gwahanol rolau, cyfrifoldebau ac amgylcheddau
- deall pa ffactorau, dylanwadau ac ymddygiadau sy’n llywio iechyd corfforol
- ystyried pa benderfyniadau sy’n dylanwadu ar eu hiechyd a llesiant eu hunain ac iechyd a llesiant eraill
- deall manteision gweithgaredd corfforol, gan gynnwys agweddau cymdeithasol, hamdden a pherfformio, yn ogystal â sut mae’n cefnogi eu hiechyd a llesiant corfforol
- cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau amrywiol er mwyn helpu i ddatblygu a mireinio sgiliau echddygol bras a manwl, sgiliau trosglwyddadwy a’r gallu i gysylltu cynnydd â dyfalbarhad a hyder
- deall sut y gall ffactorau ddylanwadu ar eu hiechyd a llesiant, datblygu’r sgiliau i gefnogi ymddygiadau iach yn perthyn i’r ffactorau hyn a’r hyder ac ysgogiad i gefnogi’r ymddygiadau hyn gydol oes
- archwilio'r ffactorau sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant. Gall y rhain gynnwys pwysigrwydd ymarfer corff yn rheolaidd ac effaith deiet cytbwys, ymhlith pethau eraill
- adfyfyrio ar oblygiadau tymor byr, tymor canolig a hirdymor y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud. Dylai’r broses gydnabod nad oes gan ddysgwyr o angenrheidrwydd gyfrifoldeb dros lawer o’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a bod y cyfrifoldeb hwn yn tyfu dros gyfnod o amser. Mae’n bwysig adfyfyrio ar effaith penderfyniadau nid yn unig ar yr hunan ond ar bobl eraill a’r gymdeithas ehangach
- cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon tîm a chwaraeon unigol i gefnogi eu dealltwriaeth o arferion iechyd positif a’u gweithredu. Mae hyn hefyd yn cefnogi datblygu gweithio mewn tîm, gwydnwch a hyder unigolion. Gall astudio chwaraeon hefyd ddatgloi agweddau ar hanes cymdeithasol, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth a gwyddoniaeth Cymru ac ar draws y byd.

Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.