Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol (SCRhH)
Mae'r amseriadau ar gyfer profion cadarnhau ar gyfer yr EAoNS L2 a L3 yn cael eu hymestyn. Yr amseriadau newydd fydd:
Lefel 2 EAoNS – wedi'i ymestyn 15 munud (1 awr i gyd)
Lefel 3 EAoNS – wedi'i ymestyn 25 munud (1 awr, 25 munud i gyd)
Bydd yr estyniadau amseru hyn yn mynd yn fyw ar 4 Mawrth 2024. Bydd unrhyw godau allweddol nad yw ymgeiswyr wedi'u defnyddio erbyn 1 Mawrth yn cael eu gwagio. Gall canolfannau drefnu ailsefyll o 4 Mawrth ymlaen.
Mae cymhwyster Cymhwyso Rhif yn annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau rhif i ddatrys problem trwy:
- casglu a dehongli rhifau
- cynnal cyfrifiadau
- dehongli canlyniadau
- cyflwyno canfyddiadau
Mae'n datblygu gallu'r dysgwr i ddewis a chymhwyso sgiliau rhifiadol, graffigol a mathemategol cysylltiedig mewn ffyrdd sy'n briodol i'w gyd-destun. Gellir eu defnyddio hefyd i helpu dysgwyr i wneud cysylltiadau â chyd-destunau llai cyfarwydd a datblygu eu gallu i symud ymlaen i lefelau uwch o sgiliau. Mae technegau fel gallu mesur a darllen graddfeydd, gwneud cyfrifiadau penodol, neu dynnu llun math penodol o ddiagram, yn hanfodol. Yr un mor bwysig yw sgiliau dehongli (er enghraifft gwybodaeth o dablau, graffiau neu siartiau), dewis dulliau priodol i brosesu data, disgrifio'r hyn y mae'r canfyddiadau'n ei ddangos, ac ystyried pwrpas a chynulleidfa wrth gyflwyno canlyniadau.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
![]() |
|
