TGAU Daearyddiaeth - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Bydd y cymhwyster TGAU Daearyddiaeth yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:

  • Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
    • feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a sut i'w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang
    • bod o gymorth i ddysgwyr gasglu, cyfiawnhau, cyflwyno, dadansoddi a gwerthuso ystod o dystiolaeth
    • archwilio sut a pham y gall dehongliadau wahaniaethu, ac wrth ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o ystod o ddehongliadau a ffyrdd o gyfleu elfennau a gasglwyd o amrywiaeth o dystiolaeth
    • profi rhyfeddod y byd naturiol
    • deall a gwerthfawrogi sut a pham mae lleoedd, tirwedd ac amgylchedd yn newid, yn lleol, yng Nghymru yn ogystal ag yn fyd-eang
    • datblygu dealltwriaeth o sut y gall gweithredoedd dynol yn y gorffennol a’r presennol effeithio ar y berthynas rhwng y byd naturiol a phobl
    • dwysáu ymwybyddiaeth dysgwyr o’r modd y mae’r gweithredoedd hyn yn dylanwadu ar gynaliadwyedd ein byd yn y dyfodol a’r newid yn yr hinsawdd
    • gwerthfawrogi sut mae esblygiad lleoedd, cymunedau a chymdeithasau yn cael ei sbarduno gan y rhyngweithio sydd rhwng ystod o ffactorau, gan gynnwys prosesau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, ynghyd â gweithredoedd pobl
    • meithrin dealltwriaeth o'u cyfrifoldebau fel dinasyddion Cymru a'r byd rhyng-gysylltiedig ehangach.
    • annog dysgwyr i ddatblygu fel dinasyddion byd-eang hunanymwybodol, gwybodus, moesegol sy'n myfyrio'n feirniadol ar eu credoau, gwerthoedd a'u hagweddau eu hunain ac eraill
  • Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
    • ofyn cwestiynau ymholi cynyddol soffistigedig
    • dangos mwy o annibyniaeth wrth ddod o hyd i wybodaeth addas, gan wneud rhagfynegiadau a damcaniaethau gwybodus, a gwneud penderfyniadau
    • cynyddu eu gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol eang a dwfn
    • meithrin dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain yn y byd
    • dangos y gallu i weithio gyda nifer cynyddol o ffynonellau gwybodaeth fwyfwy soffistigedig, a dealltwriaeth gynyddol o ffyrdd o ymdrin â hanesion anghyson neu sy'n gwrthdaro
    • dangos gallu cynyddol i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau sy'n newydd ac yn gynyddol anghyfarwydd.
  • Cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer Daearyddiaeth drwy:
    • gynnig cyfleoedd i ddeall ac ymchwilio tirweddau ffisegol a dynol, a chyd-destun ar gyfer achosion a chanlyniadau rhyngberthnasoedd a rhyngddibyniaeth ffisegol a dynol sy’n nodweddu ein byd modern
    • cynnig cyfleoedd i ddeall ac ymchwilio materion daearyddol allweddol
    • darparu sgiliau i’r dysgwyr gwestiynu, defnyddio a dadansoddi mapiau, delweddau a systemau gwybodaeth ddaearyddol
    • darparu sgiliau daearyddol i’r dysgwyr ffurfio cwestiynau ymchwil, ac i gasglu, trin a chyflwyno data fel eu bod yn gallu gwerthuso a meddwl yn feirniadol am broblemau a materion
    • darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored, drwy gyfrwng gwaith maes a'r ystafell ddosbarth yn yr awyr agored, ac i brofi a myfyrio ar ryfeddod y byd naturiol mewn amrywiaeth o amgylcheddau ffisegol, dynol a hanesyddol.

Bydd y cymhwyster TGAU Daearyddiaeth yn seiliedig ar y cysyniadau daearyddol canlynol hefyd sydd wedi'u rhestru yn adran 6.1 o'r Meini Prawf Cymeradwyo cyhoeddedig:

  • lle a gofod
  • graddfa
  • proses
  • parhad a newid
  • rhyngberthnasoedd
  • amrywiaeth
  • amgylchedd

Mae pob un o'r cysyniadau hyn wedi'i fapio i'r cysyniadau a nodwyd yng nghanllawiau 'dylunio eich cwricwlwm' Llywodraeth Cymru yn ogystal â'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a chamau cynnydd y Dyniaethau.  Maen nhw wedi'u mapio hefyd i gysyniadau'r Gymdeithas Ddaearyddol.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
photo of Rob Pengelly
Oes gennych chi gwestiwn?
Rob Pengelly ydw i
Phone icon (Welsh) 029 2026 5114
Subject Officer
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Amy Allen
Phone icon (Welsh) 029 2240 4276
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Rob Pengelly
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol