Bydd y cymhwyster TGAU Bwyd a Maeth yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd corfforol a llesiant sy'n hybu cyrff iach a meddyliau iach. Mae hyn yn cynnwys ymddygiadau sy'n hybu iechyd fel dilyn deiet cytbwys
- datblygu'r hyder, y cymhelliant, y gallu corfforol, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a fydd yn gallu eu helpu i ddilyn ffordd o fyw iach ac actif sy'n hybu iechyd corfforol da a
llesiant drwy astudio maeth ac iechyd da
- galluogi dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau meddwl yn greadigol sydd eu hangen i allu ystyried sut maen nhw'n gwneud penderfyniadau yn nhermau goblygiadau posibl wrth baratoi bwyd, gan gynnwys risgiau, iddyn nhw eu hunain ac i bobl eraill
- ymgysylltu'n feirniadol â'r dylanwadau cymdeithasol hyn yn eu diwylliant eu hunain sy'n dylanwadu ar y deiet a'r dewisiadau iechyd
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
- atgyfnerthu'r dysgu mewn amrywiaeth eang o gysyniadau yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig gan ystyried amrediad eang o destunau ac agweddau ar fwyd a maeth
- datblygu eu hannibyniaeth a'u gweithrediaeth mewn materion yn ymwneud â maeth ac iechyd da: gan arwain at gyfrifoldeb cynyddol am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain
- rhoi'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu am fwyd a maeth mewn cyd-destun ymarferol,
gan ddatblygu gwybodaeth am y cysyniadau
- datblygu sgiliau ymarferol fel paratoi bwyd a choginio sydd hefyd yn cefnogi dysgwyr o ran eu hiechyd a'u llesiant
Mae'r cymhwyster TGAU Bwyd a Maeth yn cael ei lunio ar sail ystyriaethau pwnc-benodol
Llywodraeth Cymru ar gyfer Bwyd a Maeth.
- Bydd y cymhwyster yn:
- darparu cyfleoedd addas i ddysgwyr ddod i ddeall y daith o'r 'fferm i'r fforc', gan archwilio dylanwadau economaidd, moesegol ac amgylcheddau argaeledd bwyd ac ystyried materion cynaliadwyedd, cynhyrchu a phrosesu bwyd
- darparu cyfleoedd i ddysgwyr wneud dewisiadau bwyd iach a gwybodus iddyn nhw eu hunain ac i eraill, gwneud cysylltiadau rhwng deiet, maeth, iechyd a llesiant, archwilio dylanwadau deiet a dewisiadau iechyd, esbonio swyddogaeth a manteision maethol bwyd a diodydd yn y corff dynol
- darparu cyfleoedd i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth o briodweddau swyddogaethol bwyd yn y corff ac o gynhwysion bwyd a ddefnyddir mewn rysáit
- darparu sgiliau i ddysgwyr allu paratoi, prosesu, storio, coginio a gweini bwyd yn effeithiol ac yn ddiogel. Byddant yn gallu addasu ryseitiau presennol a datblygu eu seigiau eu hunain, dadansoddi a gwerthuso amrediad o fwydydd a seigiau maen nhw a phobl eraill wedi'u gwneud, ac archwilio'r rhinweddau synhwyraidd sy'n perthyn i'r cynhwysion mewn rysait
rhoi cyfleoedd i Ddysgwyr werthfawrogi sut mae bwyd yn ein cysylltu â'r byd o'n cwmpas, archwilio cyfraniadau a bwydydd cymunedau ac unigolion Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, archwilio amrywiaeth o gynhwysion, a dulliau a thechnegau coginio, o fwydydd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a dylanwadau diwylliannol-gymdeithasol ar argaeledd bwyd