TGAU Astudiaethau Crefyddol - Dysgu o 2025

new_releases
Dysgu Proffesiynol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Bydd y cymhwyster TGAU Astudiaethau Crefyddol yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:

  • Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
    • feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r cysyniadau sy'n sail i'r dyniaethau, a sut i'w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang.
    • deall profiadau dynol yn well
    • dysgu sut gall amrywiol fydolygon a ffactorau ddylanwadu ar eu canfyddiadau a dehongliadau nhw eu hunain a rhai pobl eraill
    • datblygu gwerthfawrogiad o sut mae cyd-destunau'n dylanwadu ar lunio naratifau a chynrychioliadau
    • datblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, blwraliaethol ac amrywiol cymdeithasau
    • gwerthfawrogi'r rhyngweithio sydd rhwng ystod o ffactorau, gan gynnwys credoau crefyddol ac anghrefyddol a bydolygon
    • datblygu dealltwriaeth gyffredin o amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau yn eu hardal leol, Cymru a'r byd ehangach
    • archwilio a meithrin dealltwriaeth oddefgar ac empathetig o’r amrywiol gredoau, gwerthoedd, traddodiadau ac egwyddorion sydd wrth wraidd ac yn llywio cymdeithas ddynol.
  • Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
    • ofyn cwestiynau ymholi cynyddol soffistigedig
    • ymgysylltu â gwybodaeth a chysyniadau sylfaenol cynyddol eang a dwfn
    • gwneud penderfyniadau wedi'u hategu mewn cyd-destunau mwy cymhleth
    • dod i ddeall y byd o'u cwmpas mewn ffordd sy'n gynyddol glir ac ystyrlon
    • symud ymlaen i ymwybyddiaeth sy’n canolbwyntio’n fwy ar fywydau pobl eraill, yn eu cyd-destun cymdeithasol eu hunain ac mewn mannau eraill yn y byd
    • defnyddio tystiolaeth i lunio ac ategu ateb, a chysylltu hynny â sut mae canlyniadau ymholiad wedi'u cynrychioli a'u dehongli.

 

Mae'r cymhwyster TGAU Astudiaethau Crefyddol yn cael ei lunio ar sail ystyriaethau pwncbenodol Llywodraeth Cymru ar gyfer Astudiaethau Crefyddol. Bydd y cymhwyster yn:

  • darparu cyfleoedd i ddeall credoau, dysgeidiaethau, arferion, argyhoeddiadau athronyddol, gwerthoedd a phrofiadau crefyddol ac anghrefyddol o safbwynt lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • darparu cyfleoedd i chwilio am atebion i'r cwestiynau athronyddol pennaf fel pwrpas ac ystyr bywyd
  • darparu cyfleoedd i archwilio seiliau safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol a dylanwad argyhoeddiadau crefyddol ac anghrefyddol ar ein cymdeithas blwralistaidd ac amrywiol dros amser
  • sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau i archwilio materion athronyddol a moesol, myfyrio ar eu credoau a'u gwerthoedd eu hunain, ac ar gredoau a gwerthoedd pobl eraill
  • darparu cyfleoedd i ddatblygu empathi, creadigrwydd, chwilfrydedd, gwydnwch, goddefgarwch ac ymdeimlad o gynefin a phrofiadau dynol yn y byd naturiol.

 

Bydd y cymhwyster TGAU Astudiaethau Crefyddol hefyd yn seiliedig ar y cysyniadau sylfaenol eang canlynol, y mae sawl un ohonyn nhw'n treiddio trwy sawl uned i lefelau gwahanol o ehangder a dyfnder:

  • Credoau
  • Cymuned
  • Cynefin
  • Argyhoeddiadau athronyddol
  • Arferion
  • Dysgeidiaethau
  • Gwerthoedd
  • Bydolygon
  • Y cwestiynau eithaf
  • Daioni a drygioni
  • Moeseg
  • Hawliau dynol
  • Bywyd ar ôl marwolaeth
  • Stiwardiaeth
  • Safbwyntiau crefyddol/anghrefyddol
  • Amrywiaeth
  • Hunaniaeth a pherthyn
  • Ffydd ar waith
  • Plwraliaeth
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
photo of Christopher Owens
Oes gennych chi gwestiwn?
Christopher Owens ydw i
Phone icon (Welsh) 029 2240 4275
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
Phone icon (Welsh) 029 2240 4275
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Christopher Owens
Dyddiadau Allweddol
2024
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol
2025
31
Ion
Cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Addysgu