Lefel Mynediad 3 / Lefel 1 Hunanddatblygiad a Llesiant
Lluniwyd cymwysterau Hunanddatblygiad a Llesiant CBAC i gefnogi dysgwyr er mwyn iddyn nhw ddatblygu i fod yn unigolion sy'n iach ac yn hyderus, ac yn barod i fyw bywyd llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas, gan gymryd cyfrifoldeb am eu llesiant o ran bywyd a gwaith. Gall y cymwysterau hyn gefnogi dysgwyr y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw i ymwneud â chyflogaeth ac addysg. Byddan nhw'n symud datblygiad personol a chymdeithasol a llesiant y dysgwyr ymlaen, ac mae hynny'n cynnwys eu llesiant meddyliol a chorfforol. Bydd cymwysterau Hunanddatblygiad a Llesiant hefyd yn datblygu'r wybodaeth sydd gan y dysgwyr am y gymdeithas maen nhw'n byw ac yn gweithio ynddi. Byddan nhw'n cael eu cefnogi i ddod i werthfawrogi diwylliannau gwahanol ac i ddod yn ymwybodol o faterion a digwyddiadau byd-eang cyfredol.
Mae cymwysterau Hunanddatblygiad a Llesiant CBAC yn rhan o gyfres cymwysterau Llwybrau at Gyflogaeth CBAC, a luniwyd i gefnogi dysgwyr 16 oed a hŷn i gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfloeoedd am swyddi â thâl.
Bydd Adnoddau Digidol ar gyfer y cymhwyster hwn ar gael yn fuan!