Lefel 3 Cymhwyster Academaidd Amgen (Cymhwyster Cymhwysol) mewn Gwyddor Feddygol (Tystysgrif Estynedig)

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Hyfforddiant

Mae gwyddonwyr meddygol ar flaen y gad ym maes gwasanaethau gofal iechyd, gan fod eu gwaith yn hanfodol wrth roi diagnosis o glefydau, canfod effeithiolrwydd triniaethau a chwilio am ffyrdd newydd o iachâd. 

Mae ein cymwysterau Lefel 3 diwygiedig mewn Gwyddor Feddygol yn rhoi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ymarferol i ddysgwyr i gefnogi cynnydd i addysg uwch. Bydd dysgwyr yn astudio meysydd pwnc allweddol iechyd, ffisioleg a chlefydau, yn ogystal â rhoi cyfle i astudio'r meysydd ffarmacoleg, mesuriad ffisiolegol, profi clinigol ac ymchwil feddygol. 

Mae'r Cymhwyster Academaidd Amgen (Cymhwyster Cymhwysol) mewn Gwyddor Feddygol (Tystysgrif Estynedig) yn gyfwerth o ran maint â chymhwyster Safon Uwch (360 ODA).

Mae'r Cymhwyster Cymhwysol mewn Gwyddor Feddygol (Tystysgrif) yn gyfwerth o ran maint â chymhwyster Uwch Gyfrannol (180 ODA).

Bydd y cymwysterau hyn ar gael i'w cyflwyno o fis Medi 2025 ymlaen. 

Er mwyn cefnogi'r broses o symud oddi wrth y fanyleb bresennol i'r fersiwn diwygiedig, rydym wedi creu tabl cymharu manylebau sy'n ffurfio rhan o'n canllawiau addysgu cynhwysfawr.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Llinos Wood