Lefel 2 Cymraeg Craidd Ychwanegol - Dysgu o 2025

Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

Mae lluniad cymhwyster Dyfarniad Lefel 2 Cymraeg Craidd Ychwanegol yn seiliedig ar ystyriaethau pwnc penodol Llywodraeth Cymru a datganiadau o'r hyn sy'n bwysig i Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu:

  • deall y byd o'n hamgylch
  • mwynhau'r Gymraeg a gweld gwerth i'r iaith honno y tu allan i'r ystafell ddosbarth
  • defnyddio iaith sy'n gysylltiedig â diddordebau
  • datblygu'r defnydd o'r Gymraeg ar gyfer cymdeithasu ac yn y gweithle
  • amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddysgwyr glywed, gweld a darllen deunydd sy'n gyfoethog ac amrywiol yn yr iaith Gymraeg
  • meithrin sgiliau ieithyddol er mwyn defnyddio'r Gymraeg yn hyderus.

 

Bydd y cymhwyster Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:

  • Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
    • ddatblygu eu dealltwriaeth, eu hempathi a'u gallu i ymateb a chyfryngu'n effeithiol
    • rhyngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth ac adeiladu perthnasoedd
    • profi ac ymateb i amrywiaeth o weithiau llenyddol amrywiol sy'n rhoi mewnwelediad iddyn nhw o ddiwylliant, pobl a hanes Cymru a hefyd y byd ehangach
    • sbarduno eu dychymyg a'u creadigrwydd.

 

Bydd y cymhwyster Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:

  • Cefnogi egwyddorion dilyniant drwy roi cyfle i ddysgwyr:
  • adeiladu ar eu sgiliau ieithyddol
    • tyfu mewn ffordd gyfannol o ran sut maen nhw'n deall ac yn gallu gwneud defnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
    • datblygu eu repertoire ieithyddol drwy ddod i ddeall sut mae eu hieithoedd eu hunain yn gweithio
    • addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol
    • meithrin sgiliau iaith derbyn, dehongli a mynegi
    • trosglwyddo'r wybodaeth a'r sgiliau sydd ganddyn nhw'n barod i gyd-destunau newydd gan gynnwys yr agweddau cymdeithasol a diwylliannol ar iaith.

 

Cefnogi'r ystyriaethau allweddol ar gyfer datblygu ieithoedd drwy roi cyfle i ddysgwyr:

  • ddatblygu ymwybyddiaeth ffonolegol ac ymwybyddiaeth ffonemig
  • adeiladu ar wybodaeth flaenorol dysgwyr o iaith (ieithoedd) i gefnogi dysgu'r Gymraeg
  • clywed, gweld, a darllen Cymraeg cyfoethog ac amrywiol
  • darparu cyfleoedd addas a digonol i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg mewn cyd-destun dilys.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
photo of Sian Llewelyn
Oes gennych chi gwestiwn?
Sian Llewelyn ydw i
Phone icon (Welsh) 029 2026 5162
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.
person_outline Sara James
Phone icon (Welsh) 029 2026 5192
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Sian Llywelyn
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol