Lefel 2 Cymraeg Craidd Ychwanegol - Dysgu o 2025
Dysgu: Medi 2025
Codau Cyfeirio
Mae lluniad cymhwyster Dyfarniad Lefel 2 Cymraeg Craidd Ychwanegol yn seiliedig ar ystyriaethau pwnc penodol Llywodraeth Cymru a datganiadau o'r hyn sy'n bwysig i Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu:
- deall y byd o'n hamgylch
- mwynhau'r Gymraeg a gweld gwerth i'r iaith honno y tu allan i'r ystafell ddosbarth
- defnyddio iaith sy'n gysylltiedig â diddordebau
- datblygu'r defnydd o'r Gymraeg ar gyfer cymdeithasu ac yn y gweithle
- amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddysgwyr glywed, gweld a darllen deunydd sy'n gyfoethog ac amrywiol yn yr iaith Gymraeg
- meithrin sgiliau ieithyddol er mwyn defnyddio'r Gymraeg yn hyderus.
Bydd y cymhwyster Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
-
- ddatblygu eu dealltwriaeth, eu hempathi a'u gallu i ymateb a chyfryngu'n effeithiol
- rhyngweithio, archwilio syniadau, mynegi safbwyntiau, gwybodaeth a dealltwriaeth ac adeiladu perthnasoedd
- profi ac ymateb i amrywiaeth o weithiau llenyddol amrywiol sy'n rhoi mewnwelediad iddyn nhw o ddiwylliant, pobl a hanes Cymru a hefyd y byd ehangach
- sbarduno eu dychymyg a'u creadigrwydd.
Bydd y cymhwyster Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud hyn:
- Cefnogi egwyddorion dilyniant drwy roi cyfle i ddysgwyr:
- adeiladu ar eu sgiliau ieithyddol
- tyfu mewn ffordd gyfannol o ran sut maen nhw'n deall ac yn gallu gwneud defnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- datblygu eu repertoire ieithyddol drwy ddod i ddeall sut mae eu hieithoedd eu hunain yn gweithio
- addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd gwahanol
- meithrin sgiliau iaith derbyn, dehongli a mynegi
- trosglwyddo'r wybodaeth a'r sgiliau sydd ganddyn nhw'n barod i gyd-destunau newydd gan gynnwys yr agweddau cymdeithasol a diwylliannol ar iaith.
Cefnogi'r ystyriaethau allweddol ar gyfer datblygu ieithoedd drwy roi cyfle i ddysgwyr:
- ddatblygu ymwybyddiaeth ffonolegol ac ymwybyddiaeth ffonemig
- adeiladu ar wybodaeth flaenorol dysgwyr o iaith (ieithoedd) i gefnogi dysgu'r Gymraeg
- clywed, gweld, a darllen Cymraeg cyfoethog ac amrywiol
- darparu cyfleoedd addas a digonol i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg mewn cyd-destun dilys.
![photo of Sian Llewelyn](/media/sw4p2cmv/sian-llewelyn.png?anchor=center&mode=crop&width=200&height=200&rnd=133505821953070000)
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
![Sian Llywelyn](/media/sw4p2cmv/sian-llewelyn.png?anchor=center&mode=crop&width=100&height=100&rnd=133505821953070000)
Dyddiadau Allweddol
2024
09
Gor
Gor
Cyhoeddi Manyleb Ddrafft
30
Medi
Medi
Cyhoeddi Manyleb wedi'i chymeradwyo
19
Rhag
Rhag
Cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol