Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol Peirianneg (Dyfarniad Technegol)
Am help gydag e-gyflwyno cliciwch yma.
Mae'r Pecynnau Aseswyr ac Ymgeiswyr wedi'u llwytho i fyny i'r Porth.
Mewngofnodwch a gwasgwch Pob Gwasanaeth ar y chwith uchaf. Yna Adnoddau ochr chwith.
Yna o dan Adnoddau > Deunydd Cefnogi Pwnc-Benodol gan gynnwys DPP ac Enghreifftiau.
Hidlau: Pwnc > Peirianneg; Lefel > Dyfarniad Lefel 1/2; Math o Ddogfen > Tasgau Asesu Di-arholiad; Blwyddyn Cyhoeddi > 2024; Iaith > Cymraeg; Brand > CBAC.
Bydd ein Dyfarniad Galwedigaethol mewn Peirianneg yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o'r sector Peirianneg ac yn rhoi cyfleoedd iddynt feithrin sgiliau ymarferol cysylltiedig. Mae'n ymdrin â gweithgynhyrchu cynhyrchion peirianegol, dylunio cynhyrchion peirianegol a datrys problemau peirianegol sy'n canolbwyntio ar sut mae peirianneg fodern wedi effeithio ar fywyd modern yn y cartref, yn y gwaith ac yn y gymdeithas yn gyffredinol.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Gweler y Cwestiynau Cyffredin diweddaraf ar gyfer Peirianneg Lefel 1/2.
Mae Canllaw Lanlwytho Uned 1/2 ADA IAMIS Haf 2025 ar gael nawr.
Map rhyngweithiol i gefnogi canolfannau sy'n dymuno rhannu profiadau a syniadau.
Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol mewn Peirianneg 978-1860857522 |
|
![]() |
Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer cwrs Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 mewn Peirianneg (Dyfarniad Technoleg). Mae’r llyfr wedi cael ei ysgrifennu er mwyn galluogi dysgwyr o alluoedd gwahanol i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud cynnydd a chwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus.
Mae Matt Wrigley wedi gweithio ym myd addysg am dros 20 mlynedd mewn sefydliadau Addysg Uwch, Addysg Bellach ac Addysg Uwchradd. Mae Matt wedi darparu ac addysgu nifer o bynciau, gan gynnwys Peirianneg, Dylunio Cynnyrch, Adeiladu a Chyfathrebu Graffig. Mae hefyd yn gweithio gyda CBAC ar bwyllgor yr arholwyr, fel cymedrolwr, ymgynghorydd/adolygydd Lefel 3 Datblygiad Peirianneg, yn ogystal â bod yn rhan o grŵp gweithio JCQ sy’n datblygu’r cwrs TGAU Peirianneg newydd. Yn y gorffennol, mae Matt wedi awduro’r gwerslyfr ar gyfer iteriad cyntaf y fanyleb Peirianneg, yn ogystal â datblygu adnoddau sy’n cael eu defnyddio gan nifer o ganolfannau gwahanol.
> Gall canolfannau archebu heddiw trwy lenwi'r ffurflen hon, neu gallwch archebu ar Amazon |
Gwefan AAA CBAC - Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.


Mai
Mai
Awst