Cyfres Cymwysterau Cymraeg i Oedolion

new_releases
Y tu ôl i bob dathliad, mae Arholwr

Gweithio’n hyblyg, derbyn hyfforddiant cynhwysfawr â thâl, a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial. Cyflwynwch gais nawr ac ymunwch â'n tîm o arholwyr.

Dysgu: Medi 2011
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Adnoddau
  • Cysylltiadau

Ar y tudalennau hyn ceir gwybodaeth am y cymwysterau a'r adnoddau y mae CBAC yn eu darparu yn benodol i faes dysgu Cymraeg i Oedolion.

Mae CBAC yn darparu cyfres o gymwysterau i oedolion sy'n dysgu Cymraeg o'r enw Defnyddio'r Gymraeg.   Mae'r gyfres yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol.  Gellir ennill y cymwysterau drwy sefyll arholiadau ar ddiwrnodau penodol, ac maen nhw'n agored i oedolion sydd wedi dysgu Cymraeg yn ail iaith neu sydd wrthi'n dysgu ar hyn o bryd.  Does dim rhaid bod mewn dosbarth penodol er mwyn sefyll yr arholiadau na bod wedi sefyll yr arholiadau is yn gyntaf.  Mae'r cymwysterau'n addas i bobl sy'n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle. 


Mae dyddiadau arholiadau 2025 isod 

Y dyddiad cau cofrestru ar gyfer arholiadau haf 2025 yw 28 Chwefror 2025. 

Mynediad A1 

  • Dydd Gwener, 31 Ionawr 2025 (Dyddiad cau cofrestru: 6 Rhagfyr 2024) 

  • Dydd Mawrth, 10 Mehefin 2025 

  • Nos Fercher, 11 Mehefin 2025 

Sylfaen A2 

  • Dydd Gwener, 20 Mehefin 2025 

Canolradd B1 

  • Dydd Gwener, 13 Mehefin 2025 

Uwch B2 

  • Dydd Mercher a dydd Iau, 18 a 19 Mehefin 2025 

Cysylltwch â’ch canolfan arholi/eich darparwr i gofrestru. Mae’r manylion yng nghefn pob llyfryn i ymgeiswyr. Ni all CBAC na’r canolfannau arholi warantu y bydd yr arholiad ar gael yn llawn yn eich ardal chi.


Defnyddiwch y dolenni yn y tabl isod i fynd at y lefel berthnasol i chi, a chwilio am y Llyfryn Gwybodaeth i Ymgeiswyr

ALTE

Mae CBAC yn aelod llawn o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop). Mae hon yn gymdeithas i sefydliadau sy'n cynnig arholiadau iaith ar draws Ewrop, yn cynrychioli 26 o ieithoedd gwahanol.  Mae rhagor o wybodaeth am ALTE ar gael.  Mae Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop yn disgrifio chwe lefel o hyfedredd iaith o A1 i C2.  Gellir cael hyd i'r fframwaith ar wefan Cyngor Ewrop.

Cymhwyster Lefel yn y fframwaith Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop
Mynediad Mynediad A1
Sylfaen 1 A2
Canolradd 2 B1
Uwch 3 B2
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Llyfrau

Adnoddau

 

Mae CBAC yn cyhoeddi nifer o adnoddau i faes Cymraeg i oedolion. Gellir archebu'r rhain o siop llyfrau Cymraeg leol. Er mwyn sicrhau bod yr adnoddau dych chi'n chwilio amdanyn nhw mewn print, edrychwch ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru.  Dyma rai o'r adnoddau poblogaidd sydd ar gael o hyd:

 

Cardiau Corryn 

Mae Cardiau Corryn yn set o gardiau fflach neu gardiau sbardun addas i'w defnyddio ar ddiwedd lefel Mynediad i baratoi ymgeiswyr sy'n sefyll yr arholiad, neu o bosib ar ddechrau cwrs Sylfaen fel gweithgaredd adolygu. 

 

Dysgu trwy Lenyddiaeth

Mae'r llyfr hwn yn cynnwys darnau byrion o lenyddiaeth Gymraeg, yn cynnwys caneuon,  cerddi, darnau o ryddiaith, drama ac yn y blaen i'w defnyddio yn y dosbarth Cymraeg i oedolion.

 

Darnau Gwrando

Casgliad o weithgareddau gwrando i'w defnyddio mewn dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion.  Bydd y gweithgareddau’n ddefnyddiol wrth baratoi ymgeiswyr i sefyll yr arholiadau Cymraeg i Oedolion:  Mynediad, Sylfaen a Chanolradd. Cynhwysir CD gyda'r llyfr, ac mae'r traciau sain ar ffurf ffeiliau mp3.

Adnoddau eraill

 

Mae stoc o rai adnoddau eraill ar gael o hyd:

 

Llyfrau cwrs CBAC

Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o ddosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn defnyddio’r llyfrau cwrs a gyhoeddir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mae peth stoc o hen lyfrau cwrs CBAC ar ôl:

  • Cwrs Mynediad
  • Cwrs Sylfaen
  • Cwrs Canolradd

Mae fersiynau de a gogledd o'r llyfrau cwrs, ynghyd â phecyn ymarfer (gwaith cartref), CDs adolygu a Chanllawiau i Diwtoriaid i bob lefel.  Pan fydd y stoc yn dod i ben, byddan nhw ar gael am ddim ar y wefan hon, lle bo hynny’n bosibl. 

Dyma rai adnoddau isod, sy bellach allan o brint: CDs adolygu ar gyfer dysgwyr sy'n defnyddio'r Cwrs Mynediad, a'r Canllawiau i Diwtoriaid:

 

Cymraeg i’r Teulu

Mae hwn yn gwrs i rieni ac aelodau eraill y teulu sydd am ddysgu siarad Cymraeg â phlant oedran Cyfnod Sylfaen (hyd at 7 oed). Mae'r adnoddau'n addas i ddechreuwyr neu i ddysgwyr sydd newydd ddechrau dysgu Cymraeg.  Mae fersiwn y de a'r gogledd ar gael o'r llyfrau cwrs, y pecynnau ymarfer a'r CDs.

Llyfr Cwrs lefel Mynediad (blwyddyn 1 a blwyddyn 2)

  • Pecyn Ymarfer (blwyddyn 1 a blwyddyn 2)
  • CD Adolygu (blwyddyn 1 a blwyddyn 2)
  • Cardiau fflach bach
  • Cardiau fflach mawr
  • Canllawiau i diwtoriaid

Mae'r pecyn gemau bwrdd allan o brint.  Mae'n bosib fod y canllawiau i'r gemau o ddefnydd i diwtoriaid yn y dosbarth o hyd: Canllawiau i gyd-fynd â Gemau Trac Cymraeg i'r Teulu

 

Nid yw'r adnoddau isod ar gael bellach:

  • Ffeil Hyfedredd
  • Cardiau Fflach Mawr
  • Cardiau Fflach Bach

Er mwyn sicrhau bod yr adnodd dych chi'n chwilio amdano mewn print, edrychwch ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru neu holwch yn eich siop llyfrau Cymraeg leol. 

photo of Emyr Davies
Oes gennych chi gwestiwn?
Emyr Davies ydw i
phone_outline 029 2026 5009
Swyddog Arholiadau
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cynorthwy-ydd Gweinyddol
person_outline Rhys Davies
phone_outline 029 2026 5007
Cysylltiadau Gweinyddu
Ar gyfer pob ymholiad mae'r tîm wrth law i helpu.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Emyr Davies