CBAC Technoleg Ddigidol - Dysgu o 2026
Dysgu: Medi 2026
Codau Cyfeirio
Bydd y cymhwyster TGAU Technoleg Ddigidol yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy wneud y canlynol:
- Cefnogi'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, gan roi cyfle i'r dysgwyr:
- ddatblygu chwilfrydedd am dechnoleg
- prosesu data er mwyn datrys amrywiaeth eang o broblemau bywyd go iawn
- deall y ffordd y mae prosesau cyfrifiadurol wedi newid y ffordd rydym yn byw, gweithio, astudio a rhyngweithio â’n gilydd
- bod yn sylfaen i bob system caledwedd a meddalwedd
- creu a defnyddio technolegau digidol i’w llawn botensial
- deall sut mae technolegau digidol yn gweithio
- deall bod canlyniadau eang, yn gyfreithiol, cymdeithasol a moesol, i’r defnydd o dechnoleg
- gwneud penderfyniadau gwybodus am ddatblygiad a’r defnydd o dechnoleg yn y dyfodol.
- Cefnogi'r egwyddorion cynnydd drwy annog dysgwyr i:
- gymhwyso dull iterus i ddylunio prosesau drwy gynnig a gwella
- ymchwilio, archwilio, dadansoddi, datrys problemau a dylunio atebion creadigol
- ystyried dilemâu moesegol a moesol sy'n gysylltiedig â'r defnydd o dechnoleg.
- Cefnogi'r ystyriaethau pwnc-benodol ar gyfer TGAU Technoleg Ddigidol drwy roi cyfle i ddysgwyr wneud y canlynol:
- archwilio prosesau dylunio, datblygu a chymhwyso technoleg, meddalwedd a systemau
- datblygu sgiliau digidol gan ddefnyddio ystod o dechnoleg a meddalwedd.
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.