TGAU Astudiaethau Ffilm
Am help gydag e-gyflwyno cliciwch yma.
Lluniwyd ein manyleb TGAU mewn Astudiaethau Ffilm i fanteisio ar frwdfrydedd dysgwyr dros ffilm a'u cyflwyno i amrywiaeth eang o brofiadau sinematig trwy ffilmiau sydd wedi bod yn bwysig yn natblygiad ffilm a thechnoleg ffilm.
Bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth o ffilm prif ffrwd o'r UDA trwy astudio un ffilm o'r 1950au ac un ffilm o ddiwedd y 70au a'r 80au – drwy hyn maent yn ystyried dau gyfnod yn natblygiad Hollywood. Yn ychwanegol, byddant yn astudio ffilmiau mwy diweddar – ffilm annibynnol o'r UDA ynghyd â ffilmiau o Ewrop, yn cynnwys y DU, De Affrica ac Awstralia.
Mae cynhyrchu'n rhan bwysig o'r fanyleb hon ac mae'n rhan annatod o astudiaeth dysgwyr o ffilm. Pwrpas astudio amrywiaeth o ffilmiau o nifer o wahanol gyd-destunau yw rhoi cyfle i ddysgwyr gymhwyso’u gwybodaeth a'u dealltwriaeth o sut mae ffilmiau'n cael eu llunio at eu prosesau eu hunain o wneud ffilmiau a sgriptio.
Y bwriad yw y bydd hyn yn cefnogi dysgwyr wrth iddynt gynhyrchu ffilmiau a sgriptiau ffilm creadigol ynghyd â galluogi eu gwaith cynhyrchu i ddarparu safbwynt gwneuthurwr ffilmiau gwybodus ar ei astudiaeth ei hun o ffilm.
Darganfyddwch fwy am y Gwobrau Delwedd Symudol, a ddyluniwyd mewn partneriaeth â Sefydliad Ffilm Prydain.
Map rhyngweithiol i gefnogi canolfannau sy'n dymuno rhannu profiadau a syniadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.
