Paratoi at Arholiadau: Yr Apiau a'r Gwefannau Gorau i Fyfyrwyr

Paratoi at Arholiadau: Yr Apiau a'r Gwefannau Gorau i Fyfyrwyr

Mae'r adeg yna o'r flwyddyn wedi cyrraedd! Mae hi'n dymor arholiadau! Gyda therfynau amser yn prysur agosáu, mae pob eiliad yn werthfawr, felly mae'n bwysig cael y gorau o bob sesiwn adolygu.

Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae cymhorthion adolygu yn llawer ehangach nag amlygwyr, cardiau fflach cartref, a nodiadau post-it. Mae amrywiaeth enfawr o wefannau ac apiau ar gael i helpu gyda phob elfen o baratoi at yr arholiadau.

Rydyn ni wedi llunio'r rhestr ganlynol, sy'n cynnwys adnoddau adolygu gwych ar gyfer TGAU a Safon Uwch (mae rhai ar gael yn Saesneg yn unig).

  • BBC Bitesize
    Mae Bitesize yn adnodd cymorth astudio ar-lein rhad ac am ddim y BBC ar gyfer myfyrwyr. Mae'n cynnig deunydd sy'n benodol i faes llafur dros ystod eang o bynciau. Mae'n cynnwys canllawiau cam-wrth-gam, fideos, a chwisiau yn ôl lefel a phwnc.
  • Gojimo Revision
    Gojimo Revision yw'r ap adolygu mwyaf poblogaidd yn y DU, ac mae ar gael i'w lwytho i lawr yn rhad ac am ddim o storfa Apple. Gallwch gael mynediad at fwy na 40,000 o gwestiynau TGAU a Safon Uwch, llwytho cwisiau i lawr i'w defnyddio all-lein, olrhain eich cynnydd, a gweithio drwy bob testun wrth fynd ymlaen.
  • us
    Teclyn mapio meddwl seiliedig ar borwr yw Bubbl.us ac mae'n wych ar gyfer taflu syniadau. Mae'n eich galluogi i gysylltu syniadau drwy greu a datblygu mapiau meddwl lliwgar a diddorol. Os ydych chi'n ddysgwr gweledol, yna byddai ap fel hwn yn bendant yn werth chweil. Mae'r wefan yn cynnig opsiwn rhad ac am ddim neu opsiwn premiwm am £4.58 y mis.
  • Cold Turkey
    Mae Cold Turkey yn ap sy'n atal dros dro y cyfryngau cymdeithasol, gemau ac unrhyw wefannau sy'n tynnu sylw. Delfrydol os yw eich ffôn clyfar yn tynnu eich sylw o hyd. Mae'r pecyn sylfaenol yn rhad ac am ddim ac mae'n eich galluogi i flocio gwefannau diderfyn. Mae'r ap ar gael i'w lwytho i lawr ar Windows neu macOS.
  • Quizlet
    Mae Quizlet yn ap ar gyfer ffôn symudol ac sy'n seiliedig ar y we sy'n eich galluogi i astudio gwybodaeth drwy gyfrwng offer a gemau dysgu. Mae'n darparu gweithgareddau diddorol y gellir eu haddasu, gydag 8 modd astudio gwahanol. Gallwch greu cardiau fflach, amseru eich hun, a phrofi eich cof. Mae'r cyfrif sylfaenol yn rhad ac am ddim, sy'n rhoi mynediad at yr holl offer astudio ar y wefan, neu gallwch uwchraddio i Quizlet Plus am £11.46 y flwyddyn.
  • Banc Cwestiynau CBAC
    Y Banc Cwestiynau yw ein lluniwr papurau arholiad ar-lein rhad ac am ddim, sy'n eich galluogi i ddewis a dethol cwestiynau o amrywiol flynyddoedd, testunau, a phynciau er mwyn creu eich papur perffaith. Yna, byddwch yn gallu allforio eich papur gyda'r cynllun marcio cyfatebol a sylwadau'r arholwr.

Beth yw eich hoff apiau a gwefannau adolygu chi? Byddem wrth ein boddau'n clywed.

Byddwch yn barod ar gyfer yr arholiadau!

9 Awgrym da i'ch helpu i adolygu
9 Awgrym da i'ch helpu i adolygu
Blaenorol
Summer reading: I’m Not With The Band
Summer reading: I’m Not With The Band
Nesaf