Llesiant: Archwilio a chael gwared ar straen arholiadau

Llesiant: Archwilio a chael gwared ar straen

Yn teimlo dan straen dros eich astudiaethau, arholiadau neu am fywyd yn gyffredinol? Cawsom sgwrs â Dr Rachel Dodge, Rheolwr Datblygu Cymwysterau (sydd a PhD mewn Seicoleg – yn canolbwyntio ar les myfyrwyr), a ddywedodd wrthym am yr hyn sy'n digwydd i'n cyrff a'n meddyliau pan fyddwn ni'n teimlo dan straen, yn ogystal â ffyrdd o frwydro yn erbyn yr effeithiau hyn.

Beth yw Straen?

Mae'r GIG yn diffinio straen fel teimlad o fod dan ormod o bwysau meddyliol neu emosiynol. Os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu ymdopi â phwysau, yna mae'n troi'n straen, sy'n gallu effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol.

Sut mae straen arholiad yn effeithio ar bobl?

Er ein bod yn trafod y ffyrdd y gallwn frwydro yn erbyn effeithiau negyddol straen yn yr erthygl hon, nid yw'r teimlad o bwysau aruthrol y mae rhai pobl yn ei deimlo yn ystod arholiadau o reidrwydd yr un fath i bawb. I rai, gall straen fod yn ysgogiad defnyddiol, gan roi'r hwb sydd ei angen arnynt i fwrw ymlaen a'u hadolygu. I eraill, gall straen gael effaith fach neu ddim effaith o gwbl ar eu meddyliau neu eu cyrff ac nid yw'n effeithio arnynt mewn ffordd gadarnhaol na negyddol.

Arwyddion o straen

Gall straen amlygu ei hun mewn sawl ffordd; rydym yn tueddu i ganolbwyntio llawer ar effeithiau emosiynol straen fel y teimlad o banig neu ddim yn teimlo mewn rheolaeth, ond mae effeithiau straen hefyd i'w gweld yn ein cyflyrau gwybyddol a chorfforol. Efallai fod rhai pobl yn gyfarwydd iawn â'r teimlad o gerdded i mewn i ystafell a theimlo'r coesau'n gwanhau neu gyfradd y galon yn cynyddu, yn ogystal â'r teimlad o frwydro i ganolbwyntio mewn sefyllfa anodd. Ond y peth da yw, mae ffyrdd o frwydro yn erbyn y teimladau hyn.

Sut i wrthsefyll yn erbyn straen arholiadau

  1. Ymarfer technegau anadlu. Efallai ei fod yn swnio'n syml ond mae gallu rheoli eich anadlu pan fyddwch yn dechrau teimlo dan straen yn ffordd ddefnyddiol iawn o ymdawelu. Bydd yn rhoi rhywfaint o amser i chi ymlacio a thawelu eich meddwl er mwyn gallu canolbwyntio eto ar y dasg dan sylw.
  2. Rhowch gynnig ar rai dosbarthiadau ymwybyddiaeth ofalgar. P'un a ydych yn llwytho ap i lawr sy'n addysgu'r hanfodion i chi, yn edrych ar ein Canllaw Ymwybyddiaeth Ofalgar, neu'n mynychu dosbarth corfforol, profwyd bod ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu unigolion i ymdopi yn well ag effeithiau straen. Bydd ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar/meddylgarwch yn eich helpu i newid y ffordd rydych yn canfod yr effeithiau a bydd yn caniatau i chi ddefnyddio unrhyw bwysau er eich lles chi.
  3. Crëwch, adroddwch, cofiwch ac yn bwysicaf oll, credwch mewn mantras personol positif. Er ei fod yn haws dweud na gwneud, bydd newid y ffordd rydych yn meddwl yn gwneud gwahaniaeth hollbwysig. Pan rydym yn teimlo dan straen, rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar y meddyliau negyddol a chanlyniadau posibl sefyllfaoedd, ond os gallwch ddefnyddio eich egni i gredu'r mantras positif rydych wedi'u creu, yna bydd hyn yn help mawr i'ch helpu i aros yn ddigynnwrf yn y cyfnodau hynny y byddwch chi dan bwysau.
  4. Paratowch a chynlluniwch. Os ydych chi dan straen oherwydd eich astudiaethau neu arholiadau, mae paratoi a chynllunio yn allweddol. Rydym wedi creu Pecyn Cymorth Adolygu cynhwysfawr i'ch helpu i gynllunio eich sesiynau astudio neu adolygu gan ddefnyddio cardiau fflach, amserlenni a rhestri gwirio.

Un o'r pethau pwysicaf i'w gofio am straen yw, os yw'r arholiad yn dechrau mynd yn drech na chi, mae'n hynod o debygol nad chi yw'r unig un sy'n teimlo fel hyn. Siaradwch â'ch ffrindiau am sut rydych chi'n teimlo, ac efallai y byddwch yn gallu helpu'ch gilydd ar bethau sy'n anodd i chi. Os bydd angen rhagor o arweiniad arnoch, sicrhewch eich bod yn siarad â'ch rhieni ac athrawon; yn y pen draw maen nhw am i chi wneud eich gorau ac maen nhw wrth law i'ch cefnogi ag unrhyw beth y gall fod yn anodd i chi.