Diweddariad Coronafeirws: Ymgynghoriad Ofqual ar raddio cymwysterau cyffredinol

Diweddariad Coronafeirws: Ymgynghoriad Ofqual ar raddio cymwysterau cyffredinol

Heddiw, cyhoeddodd Ofqual ganlyniadau ei ymgynghoriad ar raddio cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch, Project Estynedig a’r Dyfarniad Uwch Estynedig yr haf hwn. Penderfyniadau sy'n berthnasol i gymwysterau dynodedig Ofqual yng Nghymru yw'r rhain - bydd Cymwysterau Cymru'n cyhoeddi canlyniadau ei ymgynghoriad ar gymwysterau cyffredinol yng Nghymru yn ystod Mehefin.

 

Ymhlith y penderfyniadau gan Ofqual ar sail yr ymgynghoriad mae:

  • Dyfernir graddau wedi'u cyfrifo i fyfyrwyr am TGAU, UG a Safon Uwch, y Cymhwyster Project Estynedig a'r Dyfarniad Uwch Estynedig mewn Mathemateg yr haf hwn.
  • Gall ymgeiswyr preifat hefyd dderbyn graddau wedi'u cyfrifo cyn belled â bod Pennaeth y Ganolfan wnaeth gyflwyno eu cofrestriad yn hyderus y gall gyflwyno gradd asesu canolfannau ar gyfer y myfyriwr a'i gynnwys mewn trefn restrol gyda'i fyfyrwyr eraill.
  • Bydd y sefydliadau dyfarnu'n defnyddio model ystadegol i safoni graddau asesu canolfannau a fydd yn cynnwys y deilliannau cenedlaethol disgwyliedig ar gyfer myfyrwyr eleni, cyflawniad blaenorol myfyrwyr ym mhob ysgol a choleg (ar lefel y garfan yn hytrach na'r unigolyn), a chanlyniadau blaenorol yr ysgol neu'r coleg.
  • Cynigir cyfres arholiadau ychwanegol yn yr hydref (yn dilyn ymgynghoriad, gweler isod), fel bod myfyrwyr nad ydyn nhw'n gallu derbyn gradd wedi'i chyfrifo yn gallu sefyll arholiad, ac i eraill a hoffai'r cyfle i wella ar eu gradd.
  • Y seiliau i'w defnyddio gan ganolfannau ac/neu ymgeiswyr i apelio eu graddau.

 

Mae Ofqual hefyd wedi diweddaru'r Wybodaeth i Ganolfannau yn ymwneud â chyflwyno Graddau Asesu Canolfannau.

 

Darparwyd canllawiau pwnc-benodol gennym yn barod i gefnogi athrawon wrth iddyn nhw ffurfio barn ynghylch gradd wedi'i hasesu eu myfyrwyr. Heddiw cyhoeddwyd ein canllaw cynhwysfawr i athrawon a phrifathrawon. Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i gyflwyno graddau asesu canolfannau a gwybodaeth am drefn restrol i ni.

 

Gallwch weld y dogfennau canllawiau hyn ar ein Gwefan Ddiogel.  Gellir cyflwyno graddau asesu canolfannau i ni rhwng 1 Mehefin a 12 Mehefin.

 

Cofiwch fod ein timau ar gael bob amser i'ch cefnogi chi yn ystod y cyfnod heriol hwn. Dylai athrawon gysylltu â'n timau perthnasol os oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau, byddan nhw'n barod iawn i gynnig cymorth.

 

Hefyd, cyhoeddodd Ofqual ei ymgynghoriad am y gyfres arholiadau ychwanegol ar gyfer yr hydref heddiw, mae'r ymgynghoriad hwn yn rhedeg tan 8 Mehefin.