Diweddariad Coronafeirws: arweiniad ynghylch cymwysterau a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru yng Nghymru
Hoffem hysbysu ein canolfannau yng Nghymru ein bod bellach wedi cyhoeddi mwy o wybodaeth am drefniadau cyfres haf 2020, a’i bod i’w gweld yma.
Seiliwyd y deunydd hwn ar wybodaeth sy’n bodoli’n barod a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru, a fydd yn rhyddhau mwy o fanylion yn ymwneud ag ymgeiswyr preifat yr wythnos hon.
Cymwysterau a reoleiddir gan Ofqual
Mae CGC wedi llunio canllawiau pellach i’r canolfannau hynny sy’n cyflwyno cymwysterau yng Nghymru a achredir gan Ofqual. Gellir eu llwytho i lawr yma.
Y Camau Nesaf
Byddwn yn cysylltu â’n hysgolion a cholegau yr wythnos nesaf i roi mwy o wybodaeth ac arweiniad ynghylch cyflwyno graddau asesu canolfannau a gwybodaeth am drefnau rhestrol.
Gwerthfawrogwn eich amynedd a’ch cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn, diolch yn fawr iawn i chi.