Canlyniadau Safon Uwch: Cam Nesaf eich Taith

Canlyniadau Safon Uwch: Cam Nesaf eich Taith

Ydych chi newydd gasglu eich canlyniadau UG/Safon Uwch, Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol, Tystysgrifau Her Sgiliau, Project Estynedig, Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru) ac yn ansicr pa gyfleoedd sydd ar gael i chi nawr eich bod wedi cwblhau'r garreg filltir bwysig hon? Yn yr erthygl hon, rydym yn trafod pa ddewisiadau posibl sydd ar gael i chi ar gyfer eich llwybr ar ôl yr ysgol/coleg.

Prifysgol

Llwybr cyffredin i'w ddilyn ar ôl cwblhau eich cymwysterau Safon Uwch yw mynd i'r brifysgol. Mae gennych chi'r rhyddid i astudio pwnc rydych chi'n ei fwynhau a fydd hefyd, gobeithio, yn eich arwain at yrfa mewn rhywbeth cysylltiedig. Mae dewis mynd i astudio ar gyfer gradd yn y brifysgol yn mynnu llawer o gynllunio gofalus, o ran lie i fynd i astudio, pa gymorth ariannol y gallwch ei dderbyn ac wrth gwrs y pwnc yr ydych am ei astudio. Mae mynd i'r brifysgol yn ymrwymiad mawr, felly sicrhewch mai dyma'r penderfyniad iawn i chi cyn cymryd y naid.

Myndi'r byd gwaith

Nawr bod gennych sylfaen gadarn o gymwysterau addysgol, efallai y byddwch yn penderfynu gadael y byd addysg i gamu am y tro cyntaf i'r byd gwaith. Gwnewch eich gwaith ymchwil, ystyriwch  ym mha  ddiwydiannau  yr hoffech ddechrau  datblygu gyrfa  ac ystyriwch ai patrymau Ilawn amser neu ran amser sydd orau i chi. Mae adeiladu ar brofiadau yn hanfodol  felly  ewch  i'r  afael  a chymaint  o gyfleoedd a phosibl.  Bydd hyn o fudd i chi wrth i chi ddringo ymhellach i fyny'r ysgol.

Prentisiaethau Uwch

Os ydych chi'n cael trafferth dewis rhwng astudio am radd neu gael  swydd llawn amser, yna efallai y byddai Prentisiaeth Uwch yn ddewis da i chi. Mae Prentisiaethau Uwch yn debyg i brentisiaethau lefel is yn y modd eu bod yn eich galluogi i gael profiad gwaith go iawn, ac yn astudio ar yr un pryd i dderbyn cymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan y diwydiant. Gallai'r math hwn o hyfforddiant arwain at gymhwyster lefel gradd hyd yn oed, gan wneud y cydbwysedd perffaith rhwng cael swydd llawn amser ac astudio ar gyfer  gradd israddedig.

Gwirfoddoli/Profiad Gwaith

Fel y crybwyllwyd, mae cael llawer o brofiad gwaith yn allweddol, waeth pa lwybr y byddwch yn dewis  ei ddilyn ar ôl eich astudiaethau  Safon Uwch. Os ydych chi'n ystyried mynd yn syth i weithio, bydd cyflogwyr yn tueddu i ffafrio'r rhai sydd eisoes a phrofiad yn y diwydiant. Bydd gallu siarad am brofiad o wirfoddoli ar eich datganiad personal ar gyfer prifysgol yn bendant yn gwneud eich cais yn fwy trawiadol. Mae llawer o gyfleoedd gwahanol i wirfoddoli ac i weithio ledled DU, felly ewch ati i ymchwilio ac i ddod o hyd i gyfle sy'n lleol a pherthnasol i chi.

Pa bynnag lwybr y penderfynwch ei ddilyn, sicrhewch eich bod yn treulio amser yn ystyried yn union beth yr hoffech ei wneud. Mae athrawon a theuluoedd yn gallu eich cynghori ar gyfleoedd posibl ond yn y pen draw, chi yn unig sy'n gallu penderfynu beth yw'r dewis gorau. Pob lwc!