Sut mae cymwysterau’n cael eu datblygu yng Nghymru?
Mae datblygu cymwysterau fel TGAU, Safon Uwch, cymwysterau galwedigaethol a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru yn broses eang sy'n cynnwys llawer o randdeiliaid pynciau. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin y wybodaeth a'r sgiliau i lwyddo.
Mae gan Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru (CC) a CBAC rolau a chyfrifoldebau penodol o fewn y broses o ddatblygu cymwysterau yng Nghymru.
CBAC a datblygu cymwysterau
Rheoli datblygu cymwysterau
Mae llawer o bobl yn ymwneud â'r gwaith o ddatblygu cymwysterau newydd yn CBAC, gan gynnwys y Tîm Arwain Gweithredol (TAG) a'r Grŵp Rheoli Datblygu Cymwysterau (GRhDC).
Nid yw datblygu cymhwyster yn rhywbeth y gellir ei wneud ar wahân. Mae rhan y TAG a'r GRhDC yn sicrhau bod gennym ddull cyson ar draws cymwysterau, lle y bo'n briodol, ac y gellir datblygu unrhyw gymhwyster newydd yn effeithlon, ac y gellir ei asesu'n ddibynadwy ac yn gywir.
Pan fydd cymhwyster newydd yn cael ei ddatblygu, y staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith yw:
- cyfarwyddwr cynorthwyol
- swyddog datblygu cymwysterau
- swyddog pwnc
- tîm o arbenigwyr pwnc (athrawon cyfredol fel arfer) a benodir i lunio deunyddiau asesu enghreifftiol ac adnoddau i athrawon a myfyrwyr yn seiliedig ar y fanyleb.
Y broses ddatblygu
Mae'n rhaid i'r cymwysterau rydym yn eu datblygu fodloni'r holl feini prawf (rheolau) rheoleiddio perthnasol a gyhoeddir gan CC. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn deall pob agwedd ar y meini prawf rheoleiddio sy'n berthnasol i'r cymwysterau hyn.
Cyflwynir ein deunyddiau drafft, gan gynnwys y fanyleb a'r deunyddiau asesu enghreifftiol, i'w hadolygu gan CC. Rydym yn gwneud diwygiadau yn ymateb i adborth tan y bydd CC yn fodlon cymeradwyo'r cymhwyster.
Rydym yn cydweithio’n agos â CC wrth iddynt ddatblygu'r meini prawf perthnasol gan fod y rhain yn diffinio, nid yn unig natur yr asesiad (e.e. p'un a yw'n cynnwys gwaith cwrs neu'n cael ei asesu drwy arholiadau'n unig), ond hefyd y testunau allweddol y mae'n rhaid i gynnwys y pwnc ymdrin â nhw.
Cynhelir gwiriadau sicrhau ansawdd trwyadl drwy gydol y broses o ddatblygu cymwysterau. Rydym hefyd yn ymgysylltu ag arbenigwyr pwnc gan gynnwys athrawon cymwysterau CBAC presennol, i sicrhau bod ein cymwysterau newydd yn diwallu anghenion myfyrwyr yng Nghymru.
Datblygu cymhwyster newydd: y pum cam
Datblygu cynnig Mae CBAC yn cyflwyno cynnig i ddatblygu cymhwyster, a all fod yn ymateb i raglen ddiwygio a gytunwyd neu i alw’r farchnad. Mae'n amlinellu'r angen i ddatblygu'r cymhwyster a'n cynlluniau i ddatblygu deunyddiau asesu enghreifftiol, canllawiau addysgu, adnoddau a digwyddiadau dysgu proffesiynol. |
Datblygu sail resymegol, manyleb ddrafft a Deunyddiau Asesu Enghreifftiol Mae CBAC ac arbenigwyr pwnc, gan gynnwys athrawon, yn llunio manyleb ddrafft a deunyddiau asesu enghreifftiol yn mynd i'r afael â'r meini prawf rheoleiddio gan CC. Mae CBAC yn llunio sail resymegol cymhwyster yn esbonio penderfyniadau a wnaed a sut bydd y cymhwyster yn cael ei strwythuro a'i asesu. |
Cyflwyno ac adolygu sail resymegol a drafftiau cyntaf |
Adborth a drafftiau pellach |
Cymeradwyo'r cymwysterau |
Pa mor hir yw'r broses?
Amserlen i ddatblygu cymhwyster
Fel arfer, mae'n cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd, ond gall newidiadau sylweddol, fel yn yr enghraifft isod, gymryd hirach.
Gan fod y rhan fwyaf o raglenni dysgu mewn ysgolion a cholegau yn para dwy flynedd, cyfanswm yr amser rhwng trafodaethau cychwynnol â'r rheoleiddiwr a'r dyfarniadau cyntaf yw tua phedair blynedd a hanner, fel arfer:
- tua 18 mis ar gyfer datblygu cymhwyster,
- cyhoeddi'r cymhwyster cymeradwy flwyddyn cyn ei addysgu am y tro cyntaf a,
- bron dwy flynedd o'r adeg y bydd myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau i'r adeg y byddant yn sefyll eu harholiadau.