Talent Cymry ifanc yng Ngwobrau Arloesedd CBAC

Mae dyfeiswyr ifanc mwyaf addawol Cymru wedi'u cydnabod am eu syniadau creadigol yn ein Gwobrau Arloesedd blynyddol, a gynhaliwyd am y 24ain tro eleni.  

Cynhaliwyd y seremoni yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 12 Rhagfyr, lle cafodd cyflawniadau egin ddyfeiswyr eu dathlu. 

Datblygwyd y Gwobrau Arloesedd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a'u nod yw ysbrydoli creadigrwydd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gan eu hannog i ailfeddwl dyluniadau confensiynol cynhyrchion a gwasanaethau bob dydd. Yn dilyn ymlaen o'r blynyddoedd blaenorol, roedd y dathliadau, a gynhaliwyd am y 24ain tro, yn arddangos talent creadigol ein pobl ifanc yng Nghymru. 

Mae'r digwyddiad hefyd yn adlewyrchiad o lwyddiant dyfeiswyr Cymru ac mae'n cydnabod eu cyfraniadau. Mae rhai o ddyfeisiadau mwyaf arloesol y byd wedi dod gan ddyfeiswyr o Gymru, megis y meicroffon modern, pelydr-X, a thechnoleg radar. 

Molly Newland, myfyriwr o Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ceredigion, enillodd y wobr gyntaf fel Enillydd Uwch Gyfrannol ac Enillydd Cyffredinol am ei dyluniad arloesol o fwrdd achub. Cafodd Molly ei chanmol gan y beirniaid am gyfuno dylunio arloesol â swyddogaethedd i greu cynnyrch a all achub bywydau, ac am ei gallu i roi sylw i fanylion wrth wella adnoddau ymateb mewn argyfwng. 

Dyma oedd gan Molly i'w ddweud am ei buddugoliaeth: “Rwy’n ddiolchgar iawn mod i wedi ennill y wobr UG a hefyd y Brif Wobr. Roedd pawb wedi creu projectau anhygoel, felly mae hon yn gystadleuaeth anodd iawn i’w hennill. Mae bod yma a chyrraedd y rhestr fer hefyd yn golygu cymaint. Mae ennill hyd yn oed yn fwy o fraint. Hoffwn longyfarch pawb arall wnaeth gyrraedd y rownd derfynol. Rwyf mor falch o ennill a hoffwn ddiolch i’m teulu, fy athrawon a’r ysgol am eu holl gefnogaeth.”  

Ymhlith yr enillwyr eraill oedd Sonny Normansell o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd, yn y categori Safon Uwch am ddyluniad o'r enw 'Bwrdd gwyddbwyll i'r rhai sy'n ddall ac yn rhannol ddall' a Fflur Lloyd-Jones o Ysgol Brynrefail yng Nghaernarfon, yn y categori TGAU, am ddylunio 'Cymorth Cramp a Spasm ar gyfer dioddefwyr MND'. 

Mae enillwyr blaenorol eisoes wedi gwneud cynnydd wrth ddatblygu eu dyfeisiadau. Yn ddiweddar mae Alys Jones, a enillodd y categori TGAU yng Ngwobrau Arloesedd 2023, wedi derbyn hysbysiad "Intention to Grant" gan yr UKIPO am ei dyluniad 'dyfais stôl droed symudol', sy'n ddatblygiad sydyn iawn yn y diwydiant patent.


Enillwyr y Gwobrau 2024
 

Safon Uwch  
1af – Sonny Norman, YGG Bro Edern 
2il – Eleri Thomas, Coleg Catholig Dewi Sant 
3ydd – Charley Atwood, AYGG Bro Edern 
Lefel UG
1af –  Molly Newland, Ysgol Uwchradd Aberteifi 
2il – Dylan Draper, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan Fedyddiwr 
3ydd – Chloe Radford, YGG Bro Edern  
TGAU  
1af – Fflur Lloyd-Jones, Ysgol Brynrefail 
2il – Charles Owen, Ysgol Llanfyllin 
3ydd – Deri Mullins, Ysgol Bro Pedr 
Gwobrau Eraill  

Creadigrwydd – Tomos Lang, Ysgol 3-19 Brenin Harri'r VIII, Y Fenni  
Eiddo Deallusol - Joseph Knight, Ysgol Gyfun Brynteg 
Gwyddoniaeth –  Rhys Wijeratne, YGG Bro Edern 

Mae lluniau o'r digwyddiad ar gael i'w gweld yma. 

Dywedodd Ian Morgan, ein Prif Weithredwr: 

“Mae'r Gwobrau Arloesedd yn ddigwyddiad pwysig yn ein calendr, ac mae’n fraint gallu dathlu doniau ifanc Cymru wrth iddynt barhau ag etifeddiaeth dyfeiswyr Cymru. Unwaith eto, rydym wrth ein boddau gyda safon y ceisiadau eleni, ac mae'n wych gweld y syniadau disglair ac arloesol sydd gan genhedlaeth y dyfodol, yn enwedig y rhai sy'n cymryd agwedd ragweithiol tuag at ddatrys problemau heddiw. 

“Llongyfarchiadau mawr felly i bawb a gymerodd ran, ac wrth gwrs ein henillwyr. Mae'r gwaith meddwl, yr amser, a'r ymdrech y tu ôl i'r projectau hyn wir yn haeddu canmoliaeth, ac edrychaf ymlaen at weld yr hyn a ddaw gan ddyfeiswyr Cymru yn  y dyfodol.” 

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: 

"Rwy'n hynod falch o weld gymaint o ddyfeisgarwch a chreadigrwydd o bob cwr o Gymru. Mae meithrin y genhedlaeth nesaf o arloeswyr yn rhan hanfodol o'n strategaeth arloesi, ac o weld safon y cyflwyniadau eleni, rwy'n hyderus fod ein pobl ifanc yn barod i fynd i'r afael â heriau'r dyfodol ac i groesawu pob cyfle gyda syniadau ffres a mentrus."

I gael gwybod mwy am y gystadleuaeth, ewch i'r dudalen Gwobrau Arloesedd.