Mae'r don gyntaf o Ddeunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) Gwneud-i-Gymru bellach ar gael
Yn dilyn cyhoeddi ein manylebau wedi'u cymeradwyo ar gyfer ton gyntaf ein TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig, ac yn unol ag amserlen Cymwysterau Cymru, rydym bellach wedi cyhoeddi'r deunyddiau asesu enghreifftiol (DAE)* cysylltiedig. Bydd y rhain yn cefnogi athrawon a darlithwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer cyflwyno am y tro cyntaf o fis Medi 2025.
Yn tynnu sylw at y cyhoeddiad hwn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Mae cyhoeddi'r Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) yn rhan o'r daith ragarweiniol ar gyfer ysgolion a cholegau wrth gyflwyno'r cymwysterau newydd a chyffrous hyn. Maent yn cynnig syniad o arddull yr asesiadau a chynlluniau marcio cysylltiedig, a fydd yn eu helpu i baratoi ar gyfer yr asesiadau cyntaf.
Mae'r DAE yn rhan o'r pecyn cefnogi cynhwysfawr yr ydym yn ei ddatblygu ar gyfer pob cymhwyster, sy'n cynnwys y Fanyleb wedi'i chymeradwyo, DAE, Canllawiau Addysgu, ochr yn ochr â chyfres o adnoddau addasadwy digidol rhad ac am ddim.
Bydd y pecyn hwn yn cael ei gyhoeddi gydag amserlen eang o sesiynau Dysgu Proffesiynol wyneb yn wyneb, sydd ar gael i ysgolion a cholegau ledled Cymru yn ystod tymor y gwanwyn.
Bydd y ddogfennaeth, yr adnoddau a Dysgu Proffesiynol yn helpu athrawon i ddeall sut y gellir cyflwyno'r cymwysterau hyn a chefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru.”
Mae Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) yn dangos sut bydd yr asesiad yn edrych cyn y bydd unrhyw ddeunyddiau asesu byw ar gael. Cynhyrchir DAE i gefnogi athrawon, darlithwyr a dysgwyr i ddeall sut y gall cynnwys y fanyleb gael ei hasesu. Maent yn darparu cwestiynau sampl a chynlluniau marcio y gall athrawon, darlithwyr a dysgwyr eu defnyddio wrth baratoi at yr asesu.
*Noder, ar gyfer ein TGAU diwygiedig mewn Astudiaethau Crefyddol, bydd y gyfres lawn o DAE ar gael ar ddechrau 2025. Fodd bynnag, mae'r DAE ar gyfer Unedau 2 a 4 ar gael i'w lawrlwytho nawr.
Mae'r DAE ar gael i'w lawrlwytho o'r tudalennau pwnc canlynol:
- TGAU Almaeneg
- TGAU Astudiaethau Crefyddol
- TGAU Busnes
- TGAU Bwyd a Maeth
- TGAU Celf a Dylunio
- TGAU Cerddoriaeth
- TGAU Cyfrifiadureg
- TGAU Cymraeg Craidd
- TGAU Daearyddiaeth
- TGAU Drama
- TGAU Ffrangeg
- TGAU Hanes
- TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Gradd Unigol a Dwyradd)
- TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Gradd Unigol a Dwyradd)
- TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd)
- TGAU Sbaeneg
- Lefel 2 Cymraeg Craidd Ychwanegol
Defnyddio DAE
Gellir defnyddio DAE fel rhan o weithgareddau wedi’u cyfeirio gan athrawon, neu weithgareddau wedi’u cyfeirio gan ddysgwyr. Gellir eu defnyddio fel ymarfer ar gyfer arholiad unwaith bydd y dysgu ar gyfer y testun neu'r uned wedi'i gwblhau. Gellir hefyd eu defnyddio fel canllaw ar gyfer athrawon neu ddysgwyr i greu eu cwestiynau eu hunain. Bydd hyn yn gwerthuso'r dysgu ac yn nodi'r meysydd i wella. Mae'n bwysig iawn i ddeall mai pwrpas y DAE yw dangos sut gall asesiad edrych yng nghyfresi arholiadau'r dyfodol. Felly, dylid eu defnyddio unwaith y bydd y dysgu wedi'i gwblhau.
Yn unol ag amserlen Cymwysterau Cymru, byddwn yn cyhoeddi Canllawiau Addysgu ym mis Ionawr; bydd y Canllawiau hyn yn cefnogi athrawon wrth baratoi at asesu ac yn nodi'r cyfleoedd i gynnwys agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru wrth gyflwyno'r cymwysterau.
Cefnogaeth ychwanegol
Byddwn yn darparu modiwl dysgu cyfunol 'Arweiniad i'r DAE' ar gyfer athrawon a darlithwyr, a hyfforddiant wyneb yn wyneb fydd yn cynnwys dulliau addysgu ac asesu awgrymedig ar gyfer pob cymhwyster.
Cyflwyniad wedi'i recordio ymlaen llaw yw’r arweiniad i'r DAE, sydd wedi'i gynllunio i gefnogi dysgwyr, athrawon a darlithwyr i ddeall strwythur asesiadau di-arholiad a phapurau cwestiynau. Bydd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar y mathau o gwestiynau, amcanion asesu a dulliau marcio. Ceir mynediad ato drwy wefan ddiogel Porth CBAC yn nhymor yr haf 2025.
Yn ogystal, mae gennym Gwestiynau Cyffredin penodol sydd ar gael yma.
Adnoddau addasadwy RHAD AC AM DDIM a Dysgu Proffesiynol
I gefnogi cyflwyno'r cymwysterau hyn, byddwn yn cynhyrchu pecyn o adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM. Byddwn yn dechrau cyhoeddi'r deunyddiau o ddiwedd tymor yr hydref, mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy'r cyhoeddiad canlynol.
Ochr yn ochr â'r adnoddau hyn, rydyn ni hefyd yn cyflwyno amserlen bwrpasol o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau cenedlaethol hyn sy'n RHAD AC AM DDIM ar gael i ganolfannau ledled Cymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig a fydd yn rhoi cipolwg ar bob cymhwyster ac yn cynnig cyngor ac arweiniad pragmataidd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, gan gynnwys ein Sioeau Teithiol Ledled Cymru ar gael yma.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n adran 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.