Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n derbyn eu canlyniadau Haf 2024 heddiw
Heddiw, bydd myfyrwyr ledled Cymru yn derbyn eu canlyniadau ar gyfer y cymwysterau Safon Uwch, UG, Lefel 3, Bagloriaeth Cymru Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau Uwch.
Canlyniadau Safon Uwch Cymru
- Enillodd 97.4% o'r myfyrwyr yng Nghymru raddau A* - E
- Enillodd 10.1% o fyfyrwyr radd A*
Canlyniadau UG Cymru
- Enillodd 90.2% o fyfyrwyr raddau A-E
- Enillodd 22.1% o fyfyrwyr yng Nghymru radd A
Tystysgrif Her Sgiliau Uwch / Bagloriaeth Cymru Uwch
- Enillwyd y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gan 98.1% o fyfyrwyr
- Cynyddodd nifer y myfyrwyr yn dilyn y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gan 1.5 pwynt canrannol o gymharu â 2023
- Llwyddodd 79.6% o ymgeiswyr yn y cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch
Yn ei sylw, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Llongyfarchiadau i fyfyrwyr sy'n casglu eu canlyniadau heddiw. Mae hyn wir yn dangos eu gwaith caled a'u dyfalbarhad drwy gydol eu hastudiaethau.
‘Ar ran CBAC, hoffwn ddiolch hefyd i'r holl athrawon, darlithwyr a thimau sy'n gweithio yn yr ysgolion a'r colegau ledled y wlad am eu holl gefnogaeth a phroffesiynoldeb unwaith eto eleni; mae eu hymrwymiad i'w myfyrwyr wedi bod heb ei ail ar hyd eu taith.
'Y canlyniadau hyn sy'n rhoi'r myfyrwyr ar ben ffordd o ran camau nesaf eu gyrfa. Gall hynny fod yn symud ymlaen i astudio ymhellach neu'n gychwyn ar yrfa o'u dewis. Hoffwn ddymuno'r gorau iddyn nhw beth bynnag maen nhw'n ei wneud."
Ewch i'n tudalen gwe Diwrnod y Canlyniadau heddiw
Er mwyn cefnogi myfyrwyr, athrawon a rhieni rydym wedi datblygu Tudalen Gwe Diwrnod y Canlyniadau bwrpasol. Ar y dudalen hon, fe welwch chi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi. Mae'n cynnwys manylion am Ffiniau Graddau, canllaw i'r broses apeliadau, a chysylltbwyntiau defnyddiol i gael cyngor ac arweiniad.
Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:
Jonathan Thomas
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand
jonathan.thomas@cbac.co.uk
029 2026 510