CBAC yn noddi Cynhadledd Flynyddol ASCL Cymru
Rydym yn falch o noddi Cynhadledd Flynyddol ASCL Cymru 2024 – ymunwch â ni am ddeuddydd o DPP gwerthfawr!
Pryd? 12-13 Rhagfyr 2024
Mae Datblygiad Proffesiynol ASCL yn ddarparwr DPP a datblygu arweinwyr blaenllaw ar gyfer arweinwyr a darpar uwch arweinwyr ysgolion, colegau ac ymddiriedolaethau ledled y DU.
Mewn sylw am ein nawdd, dywedodd Prif Weithredwr CBAC, Ian Morgan: “Rydym yn falch o noddi digwyddiad blaenllaw ASCL Cymru. Mae’r gynhadledd yn cynnig amrywiaeth eang o siaradwyr diddorol a sesiynau dynamig i gynrychiolwyr, gan ymdrin ag amrywiaeth o destunau cyfredol a pherthnasol. Mae ein Tîm Datblygu Cymwysterau a minnau’n edrych ymlaen at gyfarfod cynrychiolwyr a thrafod ein pecyn cynhwysfawr o gymwysterau a’r gefnogaeth rydym yn ei chynnig i ganolfannau ledled Cymru.”
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i rwydweithio â chynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill, gan feithrin gwybodaeth a syniadau, a magu hyder wrth addysgu ar yr un pryd. Bydd cynrychiolwyr yn clywed gan lunwyr polisïau ac arweinwyr ysbrydoledig o’r byd addysg a sectorau eraill am y materion sy’n effeithio ar ysgolion a cholegau ar hyn o bryd. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr hefyd i rannu meddyliau a barn a chymryd mwy o ran ag aelodau ASCL.
Mae’r rhaglen lawn i’w gweld yma.