Mae CBAC yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol a grëwyd mewn partneriaeth ag arbenigwyr addysg a'r diwydiant i fodloni anghenion economaidd a chymdeithasol heddiw ac yfory.
Mae cyfleoedd i ddysgwyr ar draws amrywiaeth o lefelau a dewisiadau ar gyfer dilyn cymwysterau sy'n seiliedig ar gredyd, felly mae mwy o hyblygrwydd a dewis nag erioed o'r blaen ar gael i addysgwyr a dysgwyr yng Nghymru.
Gellir cyflwyno pob cymhwyster yn ddwyieithog a bydd pecyn o adnoddau addysgu a Dysgu Proffesiynol rhad ac am ddim ar-lein ar gael i'w cefnogi.
Pam dewis CBAC?
Dim ffioedd cymeradwyo canolfan
Mae ffioedd yn daladwy wrth gofrestru dysgwyr, ac nid oes isafswm o ran maint carfan.
Cyfnod cofrestru a dyfarnu hyblyg
Gellir cofrestru dysgwyr i'w hardystio ar unrhyw adeg yn ystod eu hastudiaethau i gefnogi eu cynnydd.
Cefnogaeth dros gyfnod oes y cymwysterau
Mae CBAC wedi ymrwymo i gefnogi canolfannau a dysgwyr drwy gydol cyfnod oes ein cymwysterau, ni waeth beth fo maint y garfan.
Dysgu mwy
Os hoffech chi fwy o wybodaeth am sut i ddechrau cyflwyno unrhyw rai o'r cymwysterau uchod fel canolfan, darparwr hyfforddiant neu gyflogwr, cysylltwch â ni drwy dyfodol@cbac.co.uk.